Afon Somme

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Somme

Afon yng ngogledd Ffrainc yw afon Somme. O'r afon yma y caiff département Somme ei enw. Mae'n tarddu gerllaw Fonsommes yn département Aisne ac yn llifo'n hamddenol tua'r gorllewin am 245 km i gyrraedd y môr ym Mae y Somme, rhwng le Crotoy a Saint-Valery-sur-Somme.

Y prif drefi a dinasoedd y mae'n llifo trwyddynt yw Saint-Quentin, Ham, Péronne, Corbie, Amiens, Abbeville, Saint-Valéry-sur-Somme a Le Crotoy.