Trieste
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal a phrifddinas rhanbarth Friuli-Venezia Giulia yw Trieste (Eidaleg: Trieste, Slofeneg a Croateg: Trst, Almaeneg: Triest). Saif ym mhen draw Gwlff Trieste yn y Môr Adriatig, yn agos at y ffîn rhwng yr Eidal a Slofenia, ac mae'n borthladd pwysig. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 208,614.
Roedd Triest yn rhan o Awstria ac Ymerodraeth Awstria-Hwngari o 1382 hyd 1918. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, fe'i meddiannwyd gan yr Eidal.
Oriel luniau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Eidaleg) Trieste - Photo Canllaw – (pdf)
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: