Jan Morris

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jan Morris
Cyflogwr Y BBC
Galwedigaeth Awdur, hanesydd

Awdures a hanesydd Cymreig yw Jan Morris CBE (ganwyd James Humphrey Morris, 2 Hydref 1926, Clevedon, Gwlad yr Haf). Addysgwyd yn Lancing College, Gorllewin Sussex, mae hi'n Gymraes drwy etifeddieth a mabwysiadaeth.

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei thriawd Pax Britannica trilogy, hanes Ymerodraeth Prydain, a phortreadau dinasoedd, yn nodedig, Rhydychen, Fenis, Trieste a Dinas Efrog Newydd. Mae hefyd wedi ysgrifennu am hanes a diwylliant Sbaeneg.

Ei bywyd personol[golygu]

Gwryw oedd Morris pan gafodd ei geni, a than tua 1970 cawsai ei hadnabod fel "James Morris". Ym 1949, pan oedd dal yn James, priododd Morris Elizabeth Tuckniss, merch i blannwr tê. Cafodd Morris a Tuckniss bump o blant gyda'i gilydd, gan gynnwys y bardd a'r cerddor Twm Morys. Bu farw un o'u plant pan oedd yn faban. Dywedodd Morris yn ei hunangofiant Conundrum iddi ddechrau trawsnewid ym 1964. Erbyn 1972, cafodd lawdriniaeth newid rhyw ym Moroco. Gwnaed y llawdriniaeth gan Georges Burou, am fod doctoriaid yn y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwneud y llawdriniaeth oni bai fod Morris a Tuckniss yn ysgaru, rhywbeth nad oedd Morris yn awyddus i wneud bryd hynny.[1] Ysgarodd y ddau ohonynt yn ddiweddarach, ond maent wedi aros gyda'i gilydd. Ar 14 Mai 2008 unwyd y ddau ohonynt yn gyfreithiol drwy bartneriaeth sifil.[2]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Manhattan '45
  • Coronation Everest
  • In Search of England
  • Last Letters from Hav (nofel)
  • Fifty Years of Europe: An Album
  • The Venetian Empire (1980)
  • Fisher's Face
  • Oxford (1965)
  • The Oxford Book of Oxford (golygydd)
  • The Matter of Wales: Epic Views of a Small Country
  • Spain
  • Lincoln: A Foreigner's Quest
  • Conundrum
  • Coast to Coast: A Journey Across 1950s America
  • Trieste and the Meaning of Nowhere
  • Hong Kong
  • The World: Life and Travel 1950-2000
  • Pleasures of a Tangled Life (1989)
  • Pax Britannica trilogy:
    • Heaven's Command
    • The Climax of an Empire
    • Farewell the Trumpets
  • A Writer's House in Wales (2002)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [Conundrum gan Jan Morris] New York Review of Books. 2006 td.174 isbn=9781590171899
  2. Divorce, the death of a child and a sex change... Andy McSmith. Love story: Jan Morris - but still together. The Independent 04-06-2008. Adalwyd ar 12-03-2010