Graz
Oddi ar Wicipedia
Graz (Bafareg: Gráz, Slofeneg: Gradec) yw ail ddinas Awstria o ran maint, a phrifddinas talaith Styria yn ne yn wlad. Roedd y bibblgaeth yn 2008 yn 250,000.
Saif y ddinas ar afon Mur, wrth droed yr Alpau. Yn 2003, roedd Graz yn un o ddwy Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop. Ceir nifer fawr o adeiladau o'r Canol Oesoedd yng nghanol y ddinas, a chyhoeddwyd yr ardal yma yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1999. Mae hefyd yn ddinas ddiwydiannol bwysig, a cheir pedair prifysgol yma, gyda 40,000 o fyfyrwyr.
Symbol y ddinas yw'r Uhrturm am Schlossberg, tŵr cloc sydd i'w weld o bron bobman yn y ddinas. Caned y cyfansoddwr Robert Stolz a'r canwr Monika Martin yn Graz, a magwyd Arnold Schwarzenegger yn yr ardal.