Innsbruck
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngorllewin Awstria a phrifddinas talaith Tirol yw Innsbruck. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 140,000.
Saif y ddinas ar afon Inn. Sefydlwyd Innsbruck yn y 12fed ganrif, a chafodd ei henw o'r bont dros afon Inn a wnaeth y sefydliad yn lle aros pwysig ar y llwybrau masnach o'r Eidal a'r Swistir i'r Almaen. Ceir llawer o adeiladau o'r canol oesoedd yma, yn cynnwys castell y Fürstenburg o'r 15fed ganrif. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a cheir dwy brifysgol yma.
Pobl enwog o Innsbruck[golygu]
- Hermann Buhl, mynyddwr