Constantine, Algeria

Oddi ar Wicipedia
Constantine
Mathdinas, commune of Algeria, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCystennin I Edit this on Wikidata
Poblogaeth465,138 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirDaïra of Constantine Edit this on Wikidata
GwladBaner Algeria Algeria
Arwynebedd2,288 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr694 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Rhummel Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaZighoud Youcef Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.365°N 6.6147°E Edit this on Wikidata
Cod post25000 Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn Algeria yw Constantine (Arabeg: قسنطينة ), a leolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae'n brifddinas talaith Constantine. Poblogaeth: 462,187 (1998); 507,224 (amcangyfrif 2005); tua 700,000 efallai erbyn hyn. Dyma'r drydedd dinas yn Algeria o ran maint ei phoblogaeth.

Amgylchynnir y ddinas yn gyfangwbl bron gan geunant dwfn gyda sawl pont yn ei groesi.

Ei hen enw oedd Cirta.[1] Cafodd ei sefydlu gan y Ffeniciaid. Daeth yn ganolfan fawr yn nheyrnas Numidia yn amser Massinissa. Cafodd ei dinistrio yn 311 OC ond cafodd ei hailadeiladu gan Cystennin Fawr (Constantine), Ymerodr Rhufain, a'i hailenwi ar ei ôl.

Adnabyddir Constantine am ei diwylliant a'i rhan yn hanes Gogledd Affrica. Mae'n un o ganolfannau mawr cerddoriaeth malouf a'r diwylliant arab-andalwsaidd yn gyffredinol.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "General View, Constantine, Algeria". World Digital Library. 1899. Cyrchwyd 2013-09-26.
Eginyn erthygl sydd uchod am Algeria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.