Brwydr Hastings

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Hastings
Rhan Concwest Normanaidd

Brodwaith Bayeux
Dyddiad 14 Hydref 1066
Lleoliad Bryn Senlac, Battle, Dwyrain Sussex
Canlyniad Buddugoliaeth y Normaniaid
Cydryfelwyr
Normaniaid gyda
Llydawyr
Ffleminiaid
Ffrancod
Eingl-Sacsoniaid
Arweinwyr
Wiliam o Normandi
Alan Rufus
William FitzOsbern
Eustache II, Iarll Boulogne
Harold Godwinson
Gyrth Godwinson
Leofwine Godwinson
Nerth
rhwng c. 7,000 a 12,000 rhwng c. 5,000 a 13,000
Anafusion a cholledion
c.3,000 c.5,000
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
HWB
Trosolwg: Oes y Tywysogion
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Ar 14 Hydref 1066, trechodd llu o Normaniaid dan arweiniad Gwilym (Wilam), Dug Normandi, y Saeson ym Mrwydr Hastings. Glaniodd Gwilym a'i wŷr yn Pevensey, ger Hastings, ar ôl hwylio o Normandi. Roedd Gwilym am hawlio coron Lloegr ac roedd yn benderfynol o'i chipio a rheoli teyrnas Lloegr. Wynebodd y Normaniaid a'r Saeson ei gilydd ar Fryn Senlac, ger Hastings, ac yno yr ymladdwyd un o'r brwydrau enwocaf erioed. Yn y frwydr, lladdwyd brenin Lloegr, Harold II, a daeth Gwilym yn frenin Lloegr yn ei le, gan ddod yn Gwilym I.

Dominyddwyd y frwydr gan dactegau'r Normaniaid. Defnyddiasant eu gwŷr saeth a'u marchogion i dorri drwy rengoedd milwyr traed y fyddin Seisnig, a ddibynai bron yn llwyr ar filwyr traed yn absenoldeb saethwyr a heb lawer o farchogion. Bu colledion trwm ar y ddwy ochr. Saethwyd y brenin Harold yn ei lygad, ac fe'i lladdwyd.[1]

Er bod gwrthryfeloedd a gwrthwynebiad wedi bod yn nodweddion yn nheyrnasiad Wiliam, roedd ei fuddugoliaeth gadarn yn Hastings yn garreg filltir bwysig yn ei goncwest o Loegr. Mae rhai haneswyr yn amcangyfrif bod tua 2,000 o’r goresgynwyr Normanaidd wedi marw adeg y frwydr ond bod dwywaith cymaint o Saeson wedi marw. Sefydlodd Wiliam fynachlog ar safle’r frwydr, gyda’r allor uchaf yn eglwys y fynachlog yn cael ei leoli yn yr union fan lle bu Harold farw.[2]

Ar ôl ennill y frwydr daeth Gwilym yn frenin Lloegr a dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Prydain.

Coffeir Brwydr Hastings ym mrodwaith enwog Bayeux.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Pan fu farw Edward y Cyffeswr ar 5 Ionawr 1066 nid oedd ganddo unrhyw etifedd i'w olynu, ac o ganlyniad cynigiodd sawl ymgeisydd eu hawl ar goron Lloegr. Serch hynny, olynwyd Edward yn syth gan Iarll Wessex, sef Harold Godwinson. Etholwyd Harold yn frenin gan Senedd Lloegr, sef y Witenagemot (Witan) a choronwyd ef gan Ealdred, Archesgob Caerefrog. Wynebodd Harold her i'w frenhiniaeth yn syth gan ddau reolwr pwerus oedd yn gymdogion iddo. Yr un cyntaf oedd Dug Gwilym o Normandi, a oedd yn honni bod coron Lloegr wedi cael ei addo iddo gan y Brenin Edward, a bod Harold yntau hefyd wedi tyngu llw i gytuno â’r trefniant hwn. Roedd Harald Hardrada, Brenin Norwy, hefyd yn cyflwyno ei gais am y goron yn Lloegr. Seiliwyd ei gais ar gytundeb rhwng ei ragflaenydd, Magnus Dda, ac un o frenhinoedd cynharach Lloegr, sef Harthacnut. Yn ôl y cytundeb hwnnw, petai naill neu’r llall yn marw, byddai’r llall yn etifeddu Lloegr a Norwy. Penderfynodd Wiliam a Harald Hardrada yn syth eu bod yn mynd i drefnu lluoedd a llongau ar gyfer lansio goresgyniadau yn annibynnol ar ei gilydd.

Treuliodd y Brenin Harold gyfnod sylweddol yng nghanol 1066 ar yr arfordir deheuol gyda byddin fawr a fflyd o longau yn barod am oresgyniad Wiliam. Roedd nifer sylweddol o’i filwyr yn filisia oedd angen cynaeafu eu cnydau, ac felly ar 8 Medi penderfynodd Harold ei fod am ryddhau’r milisia a’r fflyd o’u dyletswyddau. Wedi iddo glywed bod Harald Hardrada, Brenin Norwy, a’i gefnogwyr wedi ymosod ar ogledd Lloegr, rhuthrodd Harold Godwinson a’i fyddin i gwrdd â nhw, gan gasglu lluoedd ychwanegol ar y ffordd, a rhoddwyd syrpreis i'r Norwyaid. O ganlyniad trechwyd Harald ym Mrwydr Pont Stamford ar 25 Medi. Lladdwyd Harald Hardrada a’i gefnogwr, Tostig, sef brawd Harold Godwinson, a dioddefodd y Norwyaid lawer o golledion, gan mai ond 24 o’r 300 o longau a gychwynnodd o Norwy oedd eu hangen i gludo’r rhai a oroesodd yn ôl yno. Dioddefodd y Saeson lawer o golledion hefyd, ac roedd byddin Harold wedi ei gwanhau yn ddirfawr.[3]

Yn y cyfamser, aeth Wiliam ati i gasglu fflyd fawr at ei gilydd ynghyd â byddin o Normandi a gweddill Ffrainc, gan gynnwys lluoedd o Lydaw a Fflandrys. Treuliodd bron i naw mis yn paratoi, oherwydd bu'n rhaid iddo gynllunio ac adeiladu fflyd o’r newydd.[4]

Wedi trechu ei frawd Tostig a Harald Hardrada yn y gogledd, gadawodd Harold Godwinson lawer o’i luoedd yn y gogledd, gan gynnwys Morcar ac Edwin. Gorymdeithiodd gweddill ei fyddin yn ôl am dde Lloegr er mwyn delio â'r bygythiad Normanaidd oedd ar y gorwel.[5]

Er bod Harold wedi ceisio rhoi syrpreis i'r Normaniaid, adroddwyd gan ysbïwyr Wiliam bod y Saeson ar eu ffordd yn ôl i'r de. Arweiniodd Wiliam ei fyddin o’i gastell a symud tuag at y gelyn. Penderfynodd Harold gymryd safle amddiffynnol ar ben Bryn Senlac (sef Battle, Dwyrain Sussex heddiw).[6]

Tactegau[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y frwydr gyda’r saethwyr Normanaidd yn saethu i fyny’r bryn at y Saeson, oedd wedi creu mur o dariannau amddiffynnol ar ben Bryn Senlac. Ond nid oedd hon yn dacteg effeithiol iawn. Roedd prinder saethwyr gan y Saeson yn rhwystr i'r saethwyr Normanaidd, oherwydd nid oedd digon o saethau i'w casglu a’u hail-ddefnyddio.[7] Wedi ymosodiad y saethwyr, gorchmynodd Wiliam y picellwyr ymlaen er mwyn ymosod ar y Saeson. Cyfarfu’r Normaniaid â llu o daflegrau, oedd yn cynnwys gwawyffyn, bwyeill a cherrig, ond nid saethau.[7] Methodd milwyr traed Wiliam dorri mur y tariannau oedd gan filwyr Harold, ac felly anfonwyd y cafalri i'w cefnogi. Er hynny, methodd y cafalri hefyd dorri’r mur, ac felly gorfodwyd lluoedd Wiliam i encilio. Rhoddwyd y bai ar yr uned o Lydaw oedd ar y chwith i Wiliam. Lledaenwyd si hefyd bod Wiliam wedi cael ei ladd ac ychwanegodd hyn at ddryswch y sefyllfa. Dechreuodd lluoedd y Saeson ruthro ar ôl y gelyn Normanaidd oedd yn ceisio ffoi, ond marchogodd Wiliam drwy ganol ei luoedd, er mwyn dangos ei wyneb gan waeddi ei fod dal yn fyw. Penderfynodd Dug Normandi lansio gwrth-ymosodiad yn erbyn y lluoedd Seisnig oedd yn rhedeg ar eu holau; ceisiodd rhai o’r Saeson ymgynnull ar ben bryn bach cyfagos cyn cael eu gormesu.[1]

Nid oes neb yn siŵr ai bwriad tactegau’r Saeson oedd rhedeg ar ôl y gelyn Normanaidd ar orchymyn Harold, ynteu ai tacteg byr-rybudd oedd hon. Mae Brodwaith Bayeux yn dangos bod marwolaeth brodyr Harold, sef Gyrth a Leofwine, wedi digwydd cyn yr ymladd ar y bryn bach cyfagos. Gall hyn fod yn dystiolaeth mai’r ddau frawd a arweiniodd y dacteg i redeg ar ôl y gelyn.[8]

Mae’n ddigon posib bod seibiant wedi bod yn yr ymladd ar ddechrau’r prynhawn gan fod angen toriad i gael gorffwys a bwyd. Mae'n ddigon posib hefyd bod angen amser ychwanegol ar Wiliam i weithredu tactegau newydd. Petai’r Normaniaid yn medru anfon cafalri yn erbyn y mur tariannau ac yna denu’r Saeson i redeg ar eu holau, gellid creu hollt yn llinell amddiffynnol y Saeson.[1] Er ei bod yn ddigon posib nad oedd y tactegau esgus ffoi wedi torri’r llinellau, mae'n ddigon posib eu bod wedi gwasgaru'r teuluwyr yn y mur o dariannau. Disodlwyd y teuluwyr, sef aelodau o warchodlu brenhinol Harold, gan aelodau’r ‘fyrd’, sef y milisia Seisnig cyn cyfnod y Normaniaid, ac felly ailgryfhawyd y mur o dariannau. Mae’n edrych yn debyg bod saethwyr wedi cael eu defnyddio eto cyn ac yn ystod yr ymosodiad gan y cafalri a’r milwyr traed o dan arweiniad Wiliam. Nid oes modd gwybod faint o ymosodiadau a lansiwyd gan y Normaniaid yn erbyn llinellau’r Saeson, ond mae rhai cofnodion yn dangos tactegau’r Normaniaid a’r Saeson yn ystod y brwydro yn y prynhawn. Yn ôl cofnod Carmen, dywedir bod dau geffyl wedi cael eu lladd tra'r oedd Wiliam yn eu marchogaeth, ond yn ôl adroddiad Wiliam o Poitier bu farw tri cheffyl.[8]

Marwolaeth Harold[golygu | golygu cod]

Mae’n debyg bod Harold wedi marw yn ddiweddarach yn y frwydr, er bod adroddiadau gwahanol yn gwrthddweud ei gilydd. Mae Wiliam o Poitier yn cofnodi ei farwolaeth heb amlinellu manylion ynghylch sut digwyddodd hynny.[9] Mae Tapestri Bayeux yn dangos ffigwr yn dal saeth sydd yn ei lygad, wrth ymyl milwr sy'n disgyn wrth iddo gael ei drywanu gan gleddyf. Uwchlaw'r ddau ffigwr mae'r gosodiad ‘Yma, mae’r Brenin Harold yn cael ei ladd’. Nid yw’n glir pa ffigwr yw Harold, ynteu a yw’n cyfeirio at y ddau ffigwr. Mae’r adroddiad cynharaf, mwyaf traddodiadol, yn sôn am Harold yn marw oherwydd saeth yn ei lygad, ac yn dyddio o’r 1080au. Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn am y Normaniaid gan fynach Eidalaidd, Amatus Montecassino. Yn ôl adroddiad Wiliam o Malmesbury cafodd Harold ei ladd gan saeth a drywanodd ei lygad ac a aeth yn syth i'w ymennydd, a bod Harold wedi cael ei anafu gan farchog ar yr un adeg y digwyddodd hyn.

Yn sgil marwolaeth Harold gadawyd lluoedd y Saeson heb arweinydd ac fe ddechreuodd y lluoedd chwalu a gwahanu. Fe wnaeth llawer ffoi, ond fe wnaeth milwyr y llys brenhinol grynhoi o gwmpas corff Harold ac ymladd tan y diwedd. Dechreuodd y Normaniaid redeg ar ôl y lluoedd Seisnig oedd yn ffoi, a heblaw am ymateb milwyr ar safle a adnabuwyd fel ‘Malfosse’, daeth y frwydr i ben.[10][11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Bennett, Matthew, 1954- (2013). Campaigns of the Norman conquest. London: Routledge, Taylor and Francis. t. 43. ISBN 978-1-135-97902-7. OCLC 880827243.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Huscroft, Richard. (2009). The Norman Conquest : a new introduction. Harlow, England: Pearson/Longman. ISBN 978-1-4058-1155-2. OCLC 245598988.
  3. Walker, Ian W. (2000). Harold : the last Anglo-Saxon King (arg. Pbk ed). Stroud: Sutton. ISBN 0-7509-2456-X. OCLC 42913221.CS1 maint: extra text (link)
  4. Bates, David, 1945- (2016). William the Conqueror. New Haven: Yale University Press. tt. 79–89. ISBN 978-0-300-18383-2. OCLC 961455786.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  5. Carpenter, David (David A.). The struggle for mastery : Britain 1066-1284. London. t. 72. ISBN 0-14-014824-8. OCLC 59264373.
  6. Lawson, M. K. (Michael Kenneth), 1950- (2007). The Battle of Hastings, 1066. Stroud: Tempus. t. 186. ISBN 978-0-7524-4177-1. OCLC 78989271.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  7. 7.0 7.1 Bennett, Matthew, 1954- (2013). Campaigns of the Norman conquest. London: Routledge, Taylor and Francis. t. 41. ISBN 978-1-135-97902-7. OCLC 880827243.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  8. 8.0 8.1 Marren, Peter. (2004). 1066 : the battles of York, Stamford Bridge, and Hastings. Barnsley, South Yorkshire: Leo Cooper. ISBN 978-1-78346-002-1. OCLC 855191549.
  9. Gravett, Christopher. (2000). Hastings 1066 : the fall of Saxon England (arg. Rev. ed). Oxford: Osprey. tt. 76–78. ISBN 1-84176-133-8. OCLC 44693793.CS1 maint: extra text (link)
  10. Gravett, Christopher. (2000). Hastings 1066 : the fall of Saxon England (arg. Rev. ed). Oxford: Osprey. t. 80. ISBN 1-84176-133-8. OCLC 44693793.CS1 maint: extra text (link)
  11. "Trosolwg: Oes y Tywysogion". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-08.