Brodwaith Bayeux

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o Frodwaith Bayeux yn dangos y Dug Gwilym

Brodwaith enwog o'r 11eg ganrif a luniwyd ar gyfer Eglwys gadeiriol Bayeux, yn Normandi, Ffrainc, i ddathlu buddugoliaeth Dug Gwilym ym Mrwydr Hastings a goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid yw Brodwaith Bayeux.

Mae'r brodwaith, sy'n mesuro 69 m (231 troedfedd), yn rhoi hanes darluniadol goresgyniad Lloegr gan y Normaniaid gan ddechrau gydag ymweliad Harold II o Loegr â Normandi a gorffen gyda Brwydr Hastings yn 1066. Mae o werth hanesyddol mawr. Cafodd ei gomisynu gan Odo, Esgob Bayeux, hanner-brawd Dug Gwilym (Gwilym Gwncwerwr). Yn ôl traddodiad, cafodd ei wneud gan Mathilda, gwraig Gwilym, ond credir erbyn hyn iddo gael ei lunio gan grefftwyr Normanaidd yn Lloegr ar ôl y Goresgyniad.

Gellir gweld Brodwaith Bayeux yn amgueddfa Bayeux.

Hourglass.svg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill