Ffleminiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r Ffleminiaid (Fflemeg/Iseldireg: de Vlamingen neu het Vlaamse volk "gwerin Fflandrys") yw'r bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r Belgiaid, gyda chymuned o tua 6 miliwn yn Fflandrys, rhan ogleddol Gwlad Belg.

Baner Fflandrys gyda Llew y Ffleminiaid

Fodd bynnag, nid yw tiriogaeth y Fflandrys bresennol yn cyfateb i'r hen Swydd Flandrys, a gynhwysai rannu o ogledd Ffrainc a'r Iseldiroedd ond heb gynnwys canolbarth a dwyrain y Fflandrys bresennol, a oedd yn rhan o arglwyddiaethau eraill yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn bennaf Dugiaeth Brabant a Swydd Loon.

Mae statws y Ffleminiaid a Fflandrys o fewn gwladwriaeth Gwlad Belg yn gwestiwn gwleidyddol dadleuol, gyda nifer o Ffleminiaid yn pwyso am ffurf o hunanlywodraeth.

Dros y canrifoedd mae'r Ffleminiaid wedi ymfudo i sawl gwlad ac ardal yn Ewrop a'r Byd Newydd. Daethant i Loegr yn y 12fed ganrif a chawsant eu defnyddio gan frenhinoedd Lloegr fel arf yn erbyn Cymry'r de trwy sefydlu trefedigaeth yn ne Penfro a drawsnewidiodd iaith a diwylliant y rhan honno o Gymru (gweler Ffleminiaid de Penfro).

Gweler hefyd[golygu]

Flag of Belgium.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Belg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.