Sorbiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Grŵp ethnig o Slafiaid Gorllewinol yn byw yn nwyrain yr Almaen yw'r Sorbiaid. Mae tua 60,000 ohonynt i gyd, yn byw yn nhaleithiau Sachsen a Brandenburg, mewn ardal tua 80 km i'r de-ddeyrain o ddinas Berlin.

Mae ganddynt ei hiaith eu hunain, Sorbeg, sy'n cael ei rhannu yn ddwy dafodiaith, neu efallai ddwy iaith wahanol, Sorbeg Uchaf a Sorbeg Isaf. Mae tua 30,000 o siaradwyr yr iaith.

Ystyrir fod y Sorbiaid yn weddillion y pobl Slafonig oedd yn byw yn yr ardal rhwng afon Elbe ac afon Oder ganrifoedd yn ôl. Hen enw arnynt oedd y Wendiaid, ond ystyrir yr enw yma yn annerbyniol bellach.