Slofaciaid

Oddi ar Wicipedia
Slofaciaid
Slofaciaid dwyreiniol yn eu gwisg werin draddodiadol mewn ffair haf y cenhedloedd Carpathaidd yn Sanok, Gwlad Pwyl.
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithSlofaceg edit this on wikidata
Label brodorolSlováci Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,200,000 Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth, protestaniaeth, eglwysi uniongred edit this on wikidata
GwladSlofacia Edit this on Wikidata
Rhan oSlafiaid Gorllewinol Edit this on Wikidata
Enw brodorolSlováci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i Slofacia yng Nghanolbarth Ewrop yw'r Slofaciaid. Slofaceg, o gangen orllewinol yr ieithoedd Slafonaidd, yw eu hiaith frodorol. Maent yn cyfri am ryw 84% o boblogaeth Gweriniaeth Slofacia gyfoes. Maent yn disgyn o'r llwythau Slafaidd a ymsefydlodd yn ardal Slofacia yn y 6g, ac yn perthyn yn agos i'r Slafiaid gorllewinol eraill: y Tsieciaid, y Pwyliaid, a'r Sorbiaid.

Yn hanesyddol bu'r Slofaciaid o fewn ffiniau Teyrnas Hwngari a dan dra-arglwyddiaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cryfhaodd hunaniaeth y Slofaciaid yn oes cenedlaetholdeb y 19g, a gwnaed ymdrechion i hyrwyddo diwylliant gwerin Slofacaidd a'r celfyddydau ac addysg yn Slofaceg. Ymgyrchodd nifer o arweinwyr gwleidyddol a deallusol dros gysylltiadau agos â'r Tsieciaid, ac ym 1918 unodd y ddwy genedl i ffurfio Tsiecoslofacia. Diddymwyd yr uniad yn heddychlon ym 1992.

Mae cerddoriaeth werin y Slofaciaid yn defnyddio offerynnau traddodiadol megis y fujara a'r valaška. Dethlir diwylliant y gwerin mewn gwyliau lleol a rhanbarthol, ac mae nifer o Slofaciaid yn dal i wisgo dillad traddodiadol ar achlysuron. Adlewyrchiad o etifeddiaeth amaethyddol y werin yw coginiaeth y Slofaciaid, a nodweddir gan brydau sylweddol a bwyd cysur, er enghraifft twmplenni gyda chaws dafad (bryndzové halušky), cawl bresych picl (kapustnica), a chig a bara.

O ran crefydd, Catholigion Rhufeinig ydy'r mwyafrif o Slofaciaid, ac mae lleiafrifoedd yn aelodau o Eglwys Efengylaidd Cyffes Augsburg (Lutheraidd) a'r Eglwys Gristnogol Ddiwygiedig (Calfinaidd), Eglwys Gatholig Roeg Slofacia (un o eglwysi Catholig y Dwyrain), ac Eglwys Uniongred Tsiecia a Slofacia (Uniongrededd Ddwyreiniol).

Ethnogenesis[golygu | golygu cod]

Gwladychwyd ardal Slofacia gan y Slafiaid yn ystod ail hanner y 6g. Mae olion archaeolegol, er enghraifft crochenwaith tal, yn dangos tebygrwydd rhwng diwylliannau materol Slofacia ac Wcráin a de Gwlad Pwyl. Fodd bynnag, mae'r ffurf hynafaidd ar Slofaceg yn debycach i ieithoedd y Slafiaid deheuol nac y mae'r Hen Bwyleg yn debyg iddynt, ac felly ansicr mae'r ateb i'r cwestiwn o ba le daeth y Slofaciaid: credir iddynt darddu o'r ardal i ogledd Mynyddoedd Carpathia, o bosib mor bell i'r dwyrain ag Wcráin neu Foldofa, ac ymfudo i flaenau'r Elbe naill ai drwy Wlad Pwyl neu o ddyffryn Afon Donaw i'r de.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Carl Waldman a Catherine Mason, Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), tt. 768–9.

-