Tsieciaid

Oddi ar Wicipedia
Tsieciaid
Côr o blant Tsiecaidd yn eu gwisg werin draddodiadol.
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig, pobl, Poblogaeth Edit this on Wikidata
MamiaithTsieceg edit this on wikidata
Label brodorolČeši Edit this on Wikidata
CrefyddCatholigiaeth, protestaniaeth, husiaeth, eglwysi uniongred edit this on wikidata
Rhan oSlafiaid Gorllewinol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSilesians, Moravians Edit this on Wikidata
Enw brodorolČeši Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i Tsiecia yng Nghanolbarth Ewrop yw'r Tsieciaid. Tsieceg, o gangen orllewinol yr ieithoedd Slafonaidd, yw eu hiaith frodorol. Maent yn cyfri am ryw 95% o boblogaeth y Weriniaeth Tsiec gyfoes. Maent yn disgyn o'r llwythau Slafaidd a ymsefydlodd yn nhiroedd Tsiecia—Bohemia, Morafia, a Silesia—yn y 6g, ac yn perthyn yn agos i'r Slafiaid gorllewinol eraill: y Slofaciaid, y Pwyliaid, a'r Sorbiaid.

Ethnogenesis[golygu | golygu cod]

Gwladychwyd blaenau Afon Elbe, sef Bohemia, gan y Slafiaid yn ystod ail hanner y 6g. Mae olion archaeolegol yn dangos tebygrwydd rhwng diwylliannau materol Bohemia a Gwlad Pwyl. Fodd bynnag, mae'r ffurf hynafaidd ar Tsieceg yn debycach i ieithoedd y Slafiaid deheuol nac y mae'r Hen Bwyleg yn debyg iddynt, ac felly ansicr mae'r ateb i'r cwestiwn o ba le daeth y Bohemiaid: credir iddynt darddu o'r ardal i ogledd Mynyddoedd Carpathia, o bosib mor bell i'r dwyrain ag Wcrain neu Foldofa, ac ymfudo i flaenau'r Elbe naill ai drwy Wlad Pwyl neu o ddyffryn Afon Donaw i'r de. Mae'n bosib yr oedd perthynas rhwng y llwythau hyn a'r bobl a elwir Venedi gan awduron Lladin yr Henfyd Diweddar.[1] Yn ôl hanes traddodiadol y Bohemiaid a'r Morafiaid, buont yn ddarostyngedig i'r Afariaid, a chawsant eu rhyddhau yn y 7g dan arweinyddiaeth yr arwr Samo, a unodd y llwythau Slafig yn un deyrnas a estynnai o Silesia i Slofenia, gan gynnwys cyndadau'r Sorbiaid yn y gogledd a'r Slofaciaid ar y cyrion dwyreiniol, a'r Wendiaid a Carnioliaid (rhagflaenwyr y Slofeniaid) i'r de.

Cafodd grym gwleidyddol a thiriogaethol y Bohemiaid eu crynhoi yn ystod y 9g a'r 10g, dan frenhinllin Přemyslid, ar ffurf Dugiaeth Bohemia, a daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Byddai'r amryw lwythau Slafig yn nhiroedd Bohemia a Morafia yn cymhathu gyda'i gilydd ac felly datblygodd hunaniaeth Tsiecaidd. Cafodd Cristnogaeth ran hanfodol yn ethnogenesis y Tsieciaid. Yn y 9g, dygwyd y ffydd a'r iaith litwrgïaidd Hen Slafoneg Eglwysig i'r ardal gan y cenhadon Bysantaidd Cyril a Methodius, a throdd y genedl yn Gristnogion dan arweiniad y Dug Bořivoj a'i wraig y Santes Ludmila.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Carl Waldman a Catherine Mason, Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 195.