Silesia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen dirgiogaeth Silesia; ffiniau 1871 mewn melyn, ffiniau 1763 mewn glas. Ffiniau cenedlaethol heddiw mewn coch.

Rhanbarth hanesyddol yng nghanolbarth Ewrop yw Silesia (Pwyleg: Śląsk; Almaeneg: Schlesien; Tsieceg: Slezsko). Saif ar y ddwy ochr i afon Oder, a gellir ei rannu yn Silesia Isaf, sy'n wastadedd gyda dinas Wrocław (Breslau) fel canolfan. a Silesia Uchaf, sy'n fynyddig, ac yn cynnwys un o ardaloedd diwydiannol pwysocaf Ewrop yn y de-ddwyrain. Yn y canrifoedd diwethaf, mae'r ardal wedi bod ym meddiant Awstria-Hwngari a'r Almaen, ond ers 1945 mae'r rhan fwyaf wedi bod yn eiddo i Wlad Pwyl, gyda rhannau llai ym meddiant yr Almaen a Gweriniaeth Tsiec.

Tua#'r flwyddyn 1000 roedd ym meddiant Gwlad Pwyl, a sefydlodd Bolesław I Archesgobaeth Wrocław. O'r 12fed ganrif ymlaen, daeth y boblogaeth yn Selesia Isaf yn fwyfwy Almaenig, ag eithrio ychydig o Sorbiaid Slafonig. Webyn y 14eg ganrif roedd ym meddiant teyrnas Bohemia. Gyda Bohemia, daeth yn eiddo i deulu'r Habsburg yn 1526.

Wedi marwolaeth yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Siarl VI yn 1740, hawliwyd Silesia gan Ffrederic II, brenin Prwsia. Wedi tri rhyfel (1740-1742, 1744-1745 a 1756-1763) llwyddodd Ffredreic i gipio Silesia. Daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen gyda Prwsia yn 1871.