Seisyllwg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Roedd Seisyllwg yn deyrnas yn ne-orllewin Cymru, fu'n bodoli o tua 730 hyd 920.

Ar ddechrau'r 8fed ganrif rheolai'r brenin Seisyll ap Clydog yn Ngheredigion. Tua'r flwyddyn 730 cipiodd Seisyll Ystrad Tywi oddi wrth Rhain ap Cadwgan, brenin Dyfed, a'i ychwanegu at ei deyrnas ei hun. Rhoddwyd yr enw Seisyllwg ar y deyrnas estynedig newydd. Cofnodir fod ei fab, Arthen ap Seisyll, wedi marw yn 807.

Yn 872 boddwyd trwy ddamwain Gwgon ap Meurig, brenin Seisyllwg, ac ychwanegodd Rhodri Mawr ei deyrnas at ei feddiannau trwy ei briodas ag Angharad, chwaer Gwgon a gor-gor-gor-wyres Seisyll ap Clydog. Yr oedd Rhodri yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Ar farwolaeth Rhodri etifeddwyd Seisyllwg gan Cadell ap Rhodri ac fe'i ail-sefydlwyd am gyfnod fel teyrnas annibynnol. Llwyddodd Cadell i goncro Dyfed yn 904/905, a'i rhoi i'w fab Hywel Dda i'w llywodraethu.

Pan etifeddodd Hywel Seisyllwg hefyd yn 920 unodd y ddwy deyrnas i greu Teyrnas Deheubarth.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co)


Teyrnasoedd Cymru Y Ddraig Goch
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dogfeiling | Dyfed | Erging | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys | Rhos | Seisyllwg