Gwgon ap Meurig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwgon ap Meurig oedd brenin olaf Teyrnas Ceredigion. Ychydig iawn o wybodaeth bendant sydd ar gael amdano.

Cyfeirir ato fel Guocaun map Mouric yn y ddogfen Hen Gymraeg a adnabyddir fel Achresau Harley (adran XXVI). Credir y cafodd y ddogfen honno ei llunio yn nheyrnas Deheubarth.

Priododd ei chwaer Angharad y brenin Rhodri Mawr o Wynedd.

Yn ôl yr Annales Cambriae, bu farw Gwgon drwy foddi yn 871.[1]

Mae'n bosibl fod yr arwr traddodiadol Gwgon Gleddyfrudd i'w uniaethu â Gwgon ap Meurig, ond ymddengys yn fwy tebygol ei fod yn hynafiad iddo (os cymeriad hanesyddol ydyw mewn gwirionedd).

Cyfeiriadau [golygu]

  1. (Saesneg) Gwgon ap Meurig. Family Search. Adalwyd ar 4 Mai 2012.