Hywel Dda
Brenin cyntaf teyrnas Deheubarth yn ne-orllewin Cymru oedd Hywel 'Dda' ap Cadell (tua 880–950). Ef a unodd Ceredigion, Ystrad Tywi a Dyfed i greu'r deyrnas newydd. Erbyn ei farwolaeth roedd yn rheoli Gwynedd hefyd. Mae e'n nodedig yn bennaf am greu cyfraith unffurf gyntaf y wlad. Ei wraig oedd Elen ferch Llywarch o Ddyfed.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Ganed Hywel oddeutu 880, yn fab ieuengaf Cadell ap Rhodri ac ŵyr Rhodri Mawr. Yn 905 concrodd Cadell Deyrnas Dyfed a'i rhoi i Hywel i'w rheoli. Cryfhaodd ei afael ar Ddyfed trwy briodi Elen, gan fod ei thad Llywarch ap Hyfaidd wedi bod yn frenin Dyfed. Ar farwolaeth ei dad yn 909 cafodd Hywel gyfran o Seisyllwg, ac ar farwolaeth ei frawd yn 920, unodd Ddyfed a Seisyllwg i greu teyrnas newydd, Deheubarth. Pan fu farw ei gefnder Idwal Foel yn 942, gallodd Hywel gipio Gwynedd hefyd. Tua'r un adeg, ymddengys iddo ychwanegu Powys at ei deyrnas ar farwolaeth Llywelyn ap Merfyn, gan ddod yn frenin tua tri-chwarter Cymru.
Polisïau [golygu]
Dilynodd Hywel bolisi o gyfeillgarwch gydag Athelstan, brenin y Sacsoniaid Gorllewinol a'r grym mwyaf ar Ynys Prydain yn y cyfnod hwnnw. Cofnodir iddo ymweld a llys Athelstan nifer o weithiau, ac arwyddo nifer o ddogfennau gydag Athelstan. Mewn rhai ohonynt disgrifir ef fel Subregulus neu "is-frenin". Pan ymladdwyd Brwydr Brunanburh yn 937 rhwng Athelstan a byddin cynghrair rhwng Olaf III Guthfrithson, brenin Llychlynnaidd Dulyn, Causantín mac Áeda II, brenin yr Alban ac Owain I, brenin Ystrad Clud, ni chofnodir i'r Cymry gymeryd rhan yn y frwydr. Mae'n debyg mai oherwydd dylanwad Hywel y bu hyn. Fodd bynnag, dengys y gerdd ddarogan wladgarol Armes Prydein, a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod yma ac sy'n galw am gynghrair rhwng y Cymry a'r bobloedd eraill yn erbyn y Saeson, nad oedd polisi Hywel at ddant pob un o'i ddeiliad.
Cyfraith Hywel [golygu]
Rhoddwyd trefn newydd ar yr hen gyfreithau, a elwir o'r herwydd yn "Cyfraith Hywel Dda" neu "Gyfraith Hywel", yr un adeg ag y lluniwyd 'cyfraith Mercia' gan Offa, brenin Mercia, a 'cyfraith Wessex' gan y brenin Alfred Fawr, ac mae'n bosibl bod Hywel yn gwybod amdanynt achos gwyddys iddo ymweld â llys Wessex. Roedd cyfraith Hywel Dda yn gasgliad o gyfreithiau cynhenid traddodiadol a goladwyd tua'r flwyddyn 930 yn Hendy-gwyn ar Dâf, Dyfed. Daeth cyfreithwyr o bob cŵr o'r wlad ynnghyd i gydweithio i ad-drefnu'r gyfraith a dilynai'r Cymry Gyfraith Hywel Dda hyd yr unfed ganrif ar bymtheg. Roedd y gyfraith yn rhoi statws cyfreithol i fenywod a phlant hefyd, peth prin iawn ar yr adeg.
Roedd cysylltiadau agos rhwng Hywel â llys Wessex. Ym 928 aeth Hywel ar bererindod i Rufain.
Erbyn cyfnod Hywel roedd Cymru yn wlad fwy neu lai unedig gyda ffiniau pendant â Lloegr, ei hiaith ei hun, ei heglwys ei hun, ei llenyddiaeth a'i chyfreithiau ei hun, a gyda'i system llywodraeth ei hun. Yn anffodus, yn dilyn marwolaeth Hywel bu'r gwahanol frenhinoedd yn ymladd â'i gilydd tan i Gruffudd ap Llywelyn ddod yn frenin ar Gymru gyfan unwaith eto ar ddechrau'r 11eg ganrif.
Heddiw, mae Prifysgol Cymru yn rhoi Gwobr Goffa Hywel Dda am ymchwil i gyfraith a defod Cymru yn y Canol Oesoedd. Ceir copi o un o destunau enwocaf y Gyfraith (llawysgrif Peniarth 28) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a gellir ei ddarllen ar-lein hefyd.
Gweler hefyd [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
|
Hywel Dda
Ganwyd: 880? Bu farw: 950 |
||
| Rhagflaenydd: Idwal Foel |
Tywysog Gwynedd 920–950 |
Olynydd: Iago ab Idwal Ieuaf ab Idwal |
| Rhagflaenydd: Rhodri ap Hyfaidd |
Brenin Dyfed 905–909 |
Olynydd: Cyfunwyd y Teyrnasoedd |
| Rhagflaenydd: Cadell ap Rhodri |
Tywysog Seisyllwg 909 |
Olynydd: Cyfunwyd y Teyrnasoedd |
| Rhagflaenydd: Crewyd wrth gyfuno Dyfed a Seisyllwg |
Tywysog Deheubarth 909–950 |
Olynydd: Owain ap Hywel Rhodri ap Hywel Edwin ap Hywel |
| Rhagflaenydd: Llywelyn ap Merfyn |
Brenin Powys 942–950 |
Olynydd: Owain ap Hywel Rhodri ap Hywel Edwin ap Hywel |