Brwydr Brunanburh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brwydr a ymladdwyd yn y flwyddyn 937 rhwng byddin Aethelstan (Athelstan), brenin y Sacsoniaid Gorllewinol, a byddin o gynghreiriaid Celtaidd a Llychlynaidd a'i wrthwynebai oedd Brwydr Brunanburh.

Ceir cyfeiriad moel ati yn yr Annales Cambriae ac un llawnach yn Brut y Tywysogion, ond y brif ffynhonnell yw Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid. Pwysig hefyd, ond diweddarach, yw cronicl William o Malmesbury, y Cronicl Tigernach Gwyddeleg, a rhai o sagas Gwlad yr Iâ, yn cynnwys Egils saga gan Snorri Sturluson am Egill Skallagrimsson, Viking o hurfilwr a ymladdodd ar ochr Athelstan.

Mae safle'r frwydr yn anhysbys. Mae'n debygol mai yng ngogledd Lloegr neu dde'r Alban y digwyddodd. Mae cynigion eraill yn cynnwys Glannau Merswy (Bromborough) a Dyfnaint.

Roedd hyn yn ystod teyrnasiad Hywel Dda, brenin Cymru. Roedd yn frwydr drychinebus i'r Celtiaid a'r Llychlynwyr. Gorchfygodd Aethelstan fyddin cynghrair rhwng Olaf III Guthfrithson, brenin Llychlynwyr Dulyn (Gwŷr Dulyn), Causantín mac Áeda II, brenin yr Alban ac Owain I, brenin Ystrad Clud. Ni chofnodir i'r Cymry gymeryd rhan yn y frwydr. Gadawyd cyrff pum brenin a saith ieirll o Iwerddon ar y maes. Cafwyd colledion sylweddol ar ochr yr Eingl-Sacsoniaid hefyd.

Mae'n bosibl fod y gerdd ddarogan Armes Prydain wedi ei chyfansoddi tua'r adeg yma. Cyfeirir at Aethelstan fel "mechteyrn" gormesol sy'n hawlio awdurdod ar bawb o'i gymdogion. Ar ôl Brunanburh cynyddodd grym teyrnas yr Eingl-Sacsoniaid yn sylweddol.

Gweler hefyd[golygu]