Owain I, brenin Ystrad Clud
Oddi ar Wicipedia
Brenin teyrnas Frythonaidd Ystrad Clud yng nghanolbarth yr Alban yn negawdau cyntaf y 10fed ganrif oedd Owain I (hefyd: Ywain I neu Eógan I) (Lladin: Eugenius). Roedd ei linach yn ymestyn yn ôl i deyrnoedd Brythoniaid yr Hen Ogledd.
Cred rhai haneswyr iddo syrthio ym Mrwydr Brunanburh mewn cynghrair â Cystennin II, brenin yr Alban, a Gwŷr Dulyn yn erbyn Aethelstan, brenin Wessex, yn 937.
Ffynonellau [golygu]
- MacQuarrie, Alan, 'The Kings of Strathclyde', yn A. Grant & K.Stringer (gol.) Medieval Scotland: Crown, Lordship and Community, Essays Presented to G.W.S. Barrow (Edinburgh, 1993), tt. 1-19.