Armes Prydein

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cerdd Gymraeg y credir ei bod yn dyddio o'r 10fed ganrif yw Armes Prydein ("Y broffwydoliaeth am Brydain").

Ceir y gerdd yn Llyfr Taliesin, llawysgrif sy'n dyddio o ail hanner y 13eg ganrif. Mynega ddirmyg at y Saeson a'u bônt yn "brin iawn eu bonedd". Mae'n sôn hefyd am gynghrair rhwng y Cymry, y Llychlynwyr (sef Gwŷr Dulyn, rheolwyr Llychlynnaidd Dulyn a'r cylch; Northmyn), y Gwyddelod, y Cernywiaid a gwŷr Ystrad Clud. Proffwydir buddugoliaeth fawr iddynt yn erbyn y Saeson, gyda Cynan a Chadwaladr yn eu harwain, a lladdfa fawr yn Aber Peryddon. Mae sôn am ddyrchafu lluman Dewi Sant ac am yrru'r Saeson o Ynys Brydain.

Dygorfu Kymry y peri kat
a llwyth lliaws gwlat a gynnullant
A lluman glan Dewi a drychafant
y tywyssaw Gwydyl trwy lieingant.
A gynhon Dulyn genhyn y safant
pan dyffont yr gat nyt ymwadant.
gofynnant yr Saesson py geissyssant
pwy meint eu dylyet or wlat a dalyant ...

Ymddengys i'r gerdd gael ei chyfansoddi yn ystod teyrnasiad Hywel Dda. Gall fod cysylltiad rhwng y gerdd a Brwydr Brunanburh yn 937, pan orchfygodd Aethelstan, brenin y Sacsoniaid Gorllewinol, fyddin cynghrair rhwng Olaf III Guthfrithson, brenin Llychlynnaidd Dulyn, Causantín mac Áeda II, brenin yr Alban ac Owain I, brenin Ystrad Clud. Ni chofnodir i'r Cymry gymryd rhan yn y frwydr. Polisi Hywel Dda oedd cydweithredu ag Aethelstan. Aeth Hywel i goroniad Eadred, brawd Aethelstan, er enghraifft, yn 946. Awgrymwyd y gallai'r Armes fod wedi ei chyfansoddi rywbryd cyn y frwydr hon, gan un o ddeiliaid Hywel nad oedd yn cytuno â'i bolisi.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Ifor Williams Armes Prydein o Lyfr Taliesin: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1955)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hanes Cymru gan John Davies; Penguin Books, 1990 tud 93.