Dafydd Jenkins (hanesydd)

Oddi ar Wicipedia
Dafydd Jenkins
Ganwyd1 Mawrth 1911 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 2012 Edit this on Wikidata
Blaenpennal Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auDerek Allen Prize Edit this on Wikidata

Awdur, bargyfriethiwr ac ymgyrchydd iaith oedd Dafydd Jenkins neu David Arwyn Jenkins fel y’i bedyddwyd (1 Mawrth 19115 Mai 2012).[1] Daeth yn arbennigwr ar Gyfreithiau Hywel Dda.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe’i ganed yn Llundain i rieni a oedd â’u gwreiddiau yng Ngheredigion. Mynychodd Ysgol Merchant Taylor ac yn dilyn cael ysgoloriaeth yn y gwyddorau aeth i Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt, lle newidiodd at y Gyfraith ar gyfer ail ran ei radd.[2]

Gwaith fel bargyfriethiwr[golygu | golygu cod]

Pan alwyd ef i’r bar yn 1934, ymunodd â Chylchdaith Cyfraith De Cymru a symudodd i fyw i Gaerfyrddin.

Ymgyrchu[golygu | golygu cod]

Daeth yn weithgar gyda Phlaid Genedlaethol Cymru ac yn 1936 cyhoeddodd lyfr Tân yn Llŷn am achos ‘Yr Ysgol Fomio’. Gadawodd ei waith yn y llysoedd ac yn 1938 trefnodd Ddeiseb yr Iaith a alwodd am ddefnydd swyddogol o’r Gymraeg yn y Llysoedd Barn. Roedd yn wrthynebwr cydwybodol gan ei fod yn heddychwr o argyhoeddiad, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd ffermiai yn Nhrawsnant Isaf yng Ngheredigion.

Yr academydd[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ddarlitho yn Adran y Gyfraith, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1965, ac o 1975 hyd ei ymddeoliad yn 1978, daliai Gadair bersonol yn Hanes Cyfraith a Chyfraith Hywel Dda.[3] Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberpennar 1946 am Hanes y Nofel Gymraeg. Cyfansoddod lu o adroddiadau ar amaethyddiaeth ac ar bynciau gwleidyddol a hanesyddol.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • Tân yn Llŷn (1936)
  • Llyfr Colan (1963)
  • Cyfraith Hywel (1970)
  • Hywel Dda: The Law (1986) – cyfieithiad o Gyfraith Hywel

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Gwyneth Owen ac fe gawsant un mab.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Stephens, Meic (28 Mai 2012). Professor Dafydd Jenkins: Barrister and authority on the laws of medieval Wales. The Independent. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2013.
  2. Owen, Morfudd (2012). Dafydd Jenkins (1911-2012), Rhifyn 593. Barn
  3. Yr Athro Dafydd Jenkins yn 100 oed Archifwyd 2013-05-27 yn y Peiriant Wayback. Tudalen newyddion gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dolen allanol[golygu | golygu cod]