Tŷ Hywel

Oddi ar Wicipedia
Tŷ Hywel
Pont wydr sy'n cysylltu Tŷ Hywel (ch.) a'r Senedd (dde)

Adeilad ym Mae Caerdydd a'i ddefnyddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Tŷ Hywel. Dyma fan cyfarfod wreiddiol y Cynulliad cyn adeiladu'r Senedd yn 2006.

Saif yr adeilad hŷn wrth gefn yr adeilad fwy diweddar ac mae pontydd gwydr yn cysylltu'r naill â'r llall. Codwyd yr adeilad ym 1993 i gynlluniau'r penseiri Holder Mathias Alcock;[1] Tŷ Crughywel oedd ei enw gwreiddiol, ar ôl gwleidydd Geidwadol, yr Arglwydd Crughywel. Yn 2008 fe'i ailenwyd ar ôl Hywel Dda. Agorwyd yr adeilad yn 1993 gyda 11,583 m (38,002 ft) o ardal llawr.

Mae'r adeilad bellach yn cynnwys swyddfeydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru. Mae hen siambr y Cynulliad bellach yn cynnal dadleuon gan bobl ifanc ac yn dwyn yr enw Siambr Hywel.

Fe'i henwir ar ôl Hywel Dda, Brenin Cymru yn 10g a lluniwyr cyfreithiau'r Cymru, Cyfreithiau Hywel Dda.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 268