Dyfnwal Moelmud

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am bobl eraill o'r enw Dyfnwal gweler Dyfnwal (gwahaniaethu).

Yn ôl traddodiad, un o frenhinoedd y Brythoniaid a gofir yn y traddodiad Cymreig fel doethwr a roddodd drefn ar y cyfreithiau Cymreig cynnar oedd Dyfnwal Moelmud (amrywiad llawysgrifol, Dyfnwal Moel Mud).

Cyfeiriadau canoloesol[golygu]

Ceir ei hanes mewn rhai o'r llawysygrifau cyfreithiol a gysylltir â Gwynedd yn Oes y Tywysogion, a adweinir fel grŵp dan yr enw Llyfr Iorwerth neu Ddull Gwynedd. Dyma'r hanes (mewn orgraff ddiweddar):

Cyn na dwyn Coron Llundain a theyrnwialen o ('gan y') Saeson, Dyfnwal Moelmud a oedd frenin ar yr ynys hon, a mab oedd hwnnw i iarll Cernyw o ferch brenin Lloegr. / [Daw'n frenin...] / A'r gŵr hwnnw a oedd ŵr awdurdodus ('dysgedig') doeth, a'r gŵr hwnnw a wnaeth gyfreithiau da yn yr ynys hon yn gyntaf : a'r cyfreithiau a wnaeth ef a barhasant hyt yn o[e]s Hywel Dda. A Hywel gwedi hynny a wnaeth gyfreithiau newydd ac a ddifaws ('dileodd') rai Dyfnwal. Ac ni symudws ('newidiodd') Hywel eisoes ('yr adeg honno') fesurau tiroedd yr ynys hon, namyn ('ond') mal eu hedewys Dyfnwal canys gorau mesurwr fu ef.[1]

Yn y llyfr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, ceir hanes llawnach am Ddyfnwal Moelmud (dan yr enw Lladin ffug Dunvallo Molmutius yn yr Historia ond Dyfnwal Moelmud yn y Brut y Brenhinedd Cymraeg), ond dychymygol ydyw, er yn seiliedig ar y cymeriad traddodiadol, fe ymddengys. Yn ôl Sieffre, mae Brân Hen yn fab i Dfyfnwal Moelmud (crybwyllir y Brân Hen hwnnw yn yr Historia, ond fel arall mae'n anhysbys). Yn ôl Sieffre daeth Brân yn frenin Rhufain. Ei fab oedd Cynan ap Brân, yn ôl rhai ffynonellau.

Ceir ambell gyfeiriad at Ddyfnwal yng ngwaith y beirdd ond heb ychwanegu lawer at ein gwybodaeth amdano.

Trioedd Iolo Morganwg[golygu]

Ond cymerodd Iolo Morganwg y cyfeiriadau yn Llyfr Iorwerth a gwaith Sieffre i greu chwedl lawnach amdano ac aeth mor bell ag i greu corff cyfan o gyfreithiau "canolesol" newydd a'u tadogi ar Ddyfnwal Moelmud.[2] Ceir y cyfreithiau ffug hyn fel cyfres o drioedd yn y casgliad (ffug eto) 'Trioedd Beirdd Ynys Prydain' a gyhoeddwyd yn nhrydedd gyfrol y Myvyrian Archaiology of Wales.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Aled Rhys Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Caerdydd, 1960), para, 90.
  2. Morfydd E. Owen, 'Y Cyfreithiau' yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974), tud. 241.
  3. The Myvyrian Archaiology of Wales (ail argraffiad, 1870), Rhan 3, tt. 918-38,