Gilbert Hunter Doble

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Wendron, lle bu Doble yn ficer.

Clerigwr Anglicanaidd o Gernyw oedd Gilbert Hunter Doble (26 Tachwedd 188015 Ebrill 1945). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith ysgolheigaidd ar saint Cernyw, Cymru a Llydaw.

Ganed ef yn Penzance, Cernyw, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Exeter, Rhydychen a Choleg Diwinyddol Ely. Ordeiniwyd ef yn 1907. Bu'n gurad cynorthwyol mewn nifer o leoedd yng Nghernyw a Lloegr, yn gurad Redruth ac yna yn ficer Wendron yng Nghernyw. Yn 1935, gwnaed ef yn Ganon er anrhydedd yn Eglwys Gadeiriol Truro.

Ysgrifennodd lawer ar seintiau Cernyw, Cymru a LLydaw, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi'r bucheddau o'r Canol Oesoedd. Cyhoeddoedd astudiaethau ar lawer o saint, ar wahan yn y lle cyntaf. Ail-gyhoeddwyd ei waith ar nifer o saint Cymreig, Dyfrig, Illtud, Paulinus Aurelianus, Teilo ac Oudoceus, yn gyfrol wedi ei golygu gan D. Simon Evans dan y teitl Lives of the Welsh Saints (1971).