Cynan Dindaethwy ap Rhodri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd Cynan Dindaethwy ap Rhodri (bu farw 816) yn frenin Gwynedd.

Bywgraffiad[golygu]

Yn ôl yr achau, yr oedd Cynan yn fab i Rhodri Molwynog. Bu Rhodri farw yn 754 ac nid oes sôn am Cynan hyd 813, felly awgrymir yn Y Bywgraffiadur Cymreig fod gwall yn yr achau. Daeth Cynan yn frenin Gwynedd ar farwolaeth Caradog ap Meirion, y dywedir ei fod yn gefnder iddo. Bu Cynan yn ymladd a Hywel, ei frawd yn ôl Dr. David Powel, er ei fod yn cael ei alw yn Hywel ap Caradog ambell dro. Yn 814 llwyddodd Hywel i gipio Ynys Môn oddi wrth Cynan. Yn 816 enillodd Cynan yr ynys yn ôl, ond bu farw'r flwyddyn honno.[1]

Mae'r gair Dindaethwy yn ei enw yn gyfeiriad at gwmwd Dindaethwy (Tindaethwy), un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn ne-ddwyrain Môn. Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Posiblrwydd arall yw mai Castell Dindaethwy a olygir wrth y "Dindaethwy" yn ei enw, a chredir mai caer ar fryn ger Plas Cadnant, Porthaethwy ar Ynys Môn ydoedd. Gellir derbyn yn bur hyderus felly mai brodor o'r rhan yma o Fôn oedd Cynan.[2]

Daeth ei ferch Esyllt yn fam i Merfyn Frych, tad Rhodri Mawr.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).
O'i flaen :
Caradog ap Meirion
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Hywel ap Rhodri Molwynog