Brwydr Aberconwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Gwynedd
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru


Ymladdwyd Brwydr Aberconwy yn y flwyddyn 1194 ger Conwy (Aberconwy) rhwng Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr yn ddiweddarach) a'i ewythr Dafydd ab Owain Gwynedd. Mae'n bosibl y bu ewythr arall, sef Rhodri ab Owain Gwynedd, yn bresennol ar ochr Dafydd hefyd.[1]

Hanes[golygu]

Digwyddodd y frwydr ar lan aber Afon Conwy ger safle presennol tref Conwy. Ymladdodd Llywelyn gyda chymorth ei gefndyr Maredudd a Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd. Cafodd fuddugoliaeth fawr ar fyddin Dafydd a osododd y sylfeini i'w deyrnasiad hir fel Tywysog Gwynedd a Chymru.[2]

Cyfeirir at y fuddugoliaeth bwysig hon mewn cerddi gan y beirdd Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch) a Cynddelw Brydydd Mawr. Dyma ran o ddisgrifiad Cynddelw:

Ni bu lledrad cad cadr Aber—Conwy,
Cynnechrau fy udd nêr;
Cynnygn fy llyw oedd llawer,
Cwyddynt yng ngif seithrif sêr.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J. E. Lloyd. A History of Wales (Llundain, 1939), tt. 588-9.
  2. J. E. Lloyd. A History of Wales (Llundain, 1939), tt. 588-9.
  3. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, cyfrol II (Caerdydd, 1995), cerdd 13, llinellau 9-13. Aralleiriad: 'Ni bu byddin un gwych Aberconwy yn llechwraidd / [Ar] ddechreuad [gyrfa] fy arglwydd-bennaeth; / Niferus oedd gelynion fy arweinydd / [Ond] syrthiai saith gwaith rhif y sêr yn farw yn [yr] ymrafael.'