Robert o Ruddlan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uchelwr Normanaidd oedd Robert o Ruddlan (bu farw 3 Gorffennaf 1088). Am gyfnod bu'n arglwydd rhan helaeth o Ogledd Cymru.

Gyrfa[golygu]

Roedd Robert yn gefnder i Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer, ac ymddengys iddo gyrraedd y Mers cyn 1066 yng ngwasanaeth Edward y Cyffeswr. Pan ddaeth Hugh yn Iarll Caer yn 1070, ymddengys i Robert gael ei apwyntio'n bennaeth ei filwyr yn 1072. Dechreuodd ymladd yn erbyn y Cymry yn syth, ac wedi iddo goncro tir yn ardal Tegeingl adeiladodd gastell yn Rhuddlan.

Pan geisiodd Gruffudd ap Cynan gipio gorsedd Gwynedd oddi wrth Trahaearn ap Caradog yn 1075, rhoddodd Robert fenthyg milwyr Normanaidd i Gruffudd. Cymerodd Robert fantais ar yr ymladd rhwng Trahaearn a Gruffudd i gipio cantrefi Rhos a Rhufoniog ac i adeiladu castell yn Neganwy. Erbyn hyn, ef oedd biau'r rhan fwyaf o ogledd Cymru i'r dwyrain o Afon Conwy mewn enw, ond mae'n debyg fod ei reolaeth ymarferol yn gyfyngedig i'r arfordir.

Yn1081, lladdwyd Trahaearn ap Caradog gan Gruffydd ap Cynan ym Mrwydr Mynydd Carn. Yn fuan wedyn, cymerwyd Gruffudd yn garcharor trwy frad wedi iddo gyfarfod y Normaniaid yn Y Rug ger Corwen. Carcharwyd Gruffudd yng Nghaer gan Hugh d'Avranches, ond Robert a hawliodd diroedd Gruffudd. Adeiladodd gestyll ym Mangor, Caernarfon ac Aberlleiniog, ac efallai eraill. Yn ôl Llyfr Dydd y Farn, ef oedd yn dal holl diroedd gogledd Cymru heblaw eiddo esgobaethau Bangor a Llanelwy. Roedd yn dal y tiroedd hyn yn uniongyrchol oddi wrth y brenin, nid gan Hugh, ar rent blynyddol o ddeugain punt.

Pan fu farw Gwilym Goncwerwr yn1087, datblygodd rhyflel rhwng ei feibion. Cefnogodd Robert y mab hynaf, Robert Curthose. Bu ef a'i filwyr yn gwarchae ar Rochester dros Robert, ond gorfodwyd hwy i ildio gan fyddin William Rufus.

Diweddwyd gyrfa Robert yn 1088. Yn ôl y croniclwr Normanaidd Orderic Vitalis (1075-1143) yn ei lyfr yr Historiae Ecclesiasticae, roedd yn cysgu ganol dydd yn ei gastell yn Neganwy pan ddeffrowyd ef gyda'r newyddion fod Cymry wedi glanio mewn tair llong islaw Pen y Gogarth a'u bod yn ysbeilio ei diroedd. Dywed Orderic mai Grithfridus, rex Guallorum[1] (Gruffudd, Brenin Cymru) oedd yn eu harwain, sef Gruffudd ap Cynan wedi iddo ddianc o garchar yng Nghaer, fe ymddengys, er nad oes cyfeiriad at y digwyddiad yn Hanes Gruffudd ap Cynan.[1] Gyrrodd Robert negeseuwyr i ymgynnull ei filwyr, ac aeth ef ei hun i Ben y Gogarth, lle gwelodd fod y llanw'n codi a'r Cymry ar fin hwylio ymaith gyda'i hysbail. Rhuthrodd Robert i lawr y llechwedd mewn cynddaredd, a dim ond ei gludydd arfau yn ei ddilyn. Lladdwyd ef a gwaywffyn, a hwyliodd y Cymry ymaith gyda'i ben ynghlwm wrth fast un o'r llongau.

Cymerwyd tiroedd Robert yng Ngwynedd gan yr Iarll Hugh, ond collodd y rhan fwyaf o'r tiroedd hyn yn y gwrthryfel Cymreig yn 1094.

Cymeriad[golygu]

Yn ôl y croniclwr Orderic Vitalis, Eingl-Normaniad a aned yn Amwythig ac a dreuliodd ran helaeth ei oes fel mynach yn Ffrainc, roedd Robert yn ŵr ymladdgar a chreulon, yn enwedig yn ei ymwneud â'r Cymry. Dywed Orderic y byddai'n ymladd â'r Cymry yn aml ac yn lladd nifer ohonynt. Ychwanega:

Ar ôl gyrru'r Brythoniaid brodorol yn ôl mewn brwydrau ffyrnig ehangodd ei diroedd a chododd gastell cryf ar fryn Degannwy, ger y môr. Am bymtheg mlynedd ymosodoai'n ddidrugaredd ar y Cymry a chipiodd diroedd y rhain... a'u herlid trwy'r coedwigoedd a'r corsydd a thros fynyddoedd syrth a darganfu sawl ffordd i'w darostwng. Lladdodd rai yn y man a'r lle heb drugaredd fel petaent yn wartheg; rhoddodd eraill mewn rhwymau haearn am flynyddoedd neu eu gorfodi i wasanaeth caled ac anghyfreithlon fel caethion.[2]

Er ei fod yn Norman ei hun, mae Orderic yn collfarnu Robert yn hallt am ei ymddygiad:

Nid yw'n iawn fod Cristnogion yn gormesu eu brodyr, sydd wedi cael eu haileni yn ffydd Crist trwy fedydd, fel hyn.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tud. cxviii et seq..
  2. Orderic Vitalis, Historiae Ecclesiasticae, dyfynwyd gan David Walker yn The Norman Conquerors (Abertawe, 1977), tt. 27-8.
  3. Historiae Ecclesiasticae, yn The Norman Conquerors, tud. 28.