Castell Dolwyddelan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Dolwyddelan o'r dwyrain

Castell o flaen bwlch yn y mynyddoedd ger pentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Gwynedd, yw Castell Dolwyddelan. Mae'r castell yn sefyll mewn lle strategol, yn amddiffyn y fynediad i Wynedd o'r dwyrain ac o gyfeiriad Conwy. Mae ar restr safleoedd treftadaeth Cadw. Amddynnai rhannau uchaf cwmwd Nant Conwy.

Hanes[golygu]

Cyn i'r castell presennol gael ei godi roedd y dyffryn yn cael ei amddiffyn gan gastell llai, a adwaenir heddiw fel Tomen y Castell. Ar y safle ceir craig gydag olion aneglur muriau twr amddiffynol sy'n gorwedd chwarter milltir i'r de-ddwyrain o'r castell presennol.

Codwyd Castell Dolwyddelan gan dad Llywelyn Fawr, Iorwerth Drwyndwn. Mae'n bosibl bod Llywelyn Fawr wedi cael ei eni yma, neu yn Tomen Castell, tua 1173.

Roedd yn safle pwysig iawn i Llywelyn ein Llyw Olaf. Roedd un o'r ddau gastell (Dolbadarn oedd y llall) a etifeddodd. Roedd y tir o'i gwmpas yn safle ar gyfer cadw gwartheg i fwydo'r fyddin, un o gyfres o vaccaria tywysogaidd yn Eryri. Roedd Llywelyn yn cadw rhan o'i drysor yn y castell yn ogystal, er mwyn diogelwch. O bryd i'w gilydd byddai llys ar gylch y tywysog yn cael ei gynnal yno yn ogystal, fel y bu ar 9 Awst, 1275, er enghraifft. Felly tyfodd y castell i fod yn llawer mwy nag amddiffynfa yn unig; chwareai ran bwysig yn economi a gweinyddiaeth Tywysogaeth Gwynedd hefyd.

Cipiwyd y castell gan Edward I a'i luoedd ar y 18 Ionawr, 1283. Yr oedd y Saeson yn canolbwyntio ar y cestyll ar yr arfordir ac ni ddefnyddiwyd Dolwyddelan ar ôl 1290.

Yr adeilad[golygu]

Hen engrafiad o Gastell Dolwyddelan, gan W. Radclyffe o lun gan D. Cox

Mae gan y castell dau dŵr. Codwyd y gorthwr (keep) gwreiddiol ar ddiwedd y 12fed ganrif neu ar ddechrau'r 13eg ganrif; yr oedd iddi seler ynghyd â stafell ar y llawr cyntaf gyda grisiau cerrig allanol yn arwain iddi. Roedd y fynedfa i'r gorthwr yn cael ei amddiffyn gan bont godi ac adeilad blaen.

Mae llenfur o gerrig lleol yn amylghynu'r safle heddiw ond mae'n bosibl bod hwnnw wedi disodli palis pren cynharach, efallai yn gynnar yn y 13eg ganrif.

Ymddengys i'r ail dwr ar y safle gail ei godi gan Llywelyn ap Gruffudd rhywbryd rhwng 1250 a 1270. Mae'n dwr petryal cadarn yng nghornel ogledd-orllewinol y castell ac mae'n wynebu'r gogledd.

Ychwanegwyd llawr arall at y gorthwr gwreiddiol yn y bymthegfed ganrif gan Maredudd ab Ieuan, uchelwr o Ddolwyddelan. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd y gorthwr ei atgyweirio'n sylweddol. Y twr hwn yw'r mwyaf amlwg o'r ddau dwr heddiw, ond yn yr Oesoedd Canol buasai'r twr gorllewinol wedi bod yn llawer mwy trawiadol.

Mynediad[golygu]

Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Ceir maes parcio wrth ymyl yr A470 ar y ffordd i Flaenau Ffestiniog ar ôl gadael Dolwyddelan. Mae llwybr yn dringo o'r maes parcio i'r castell.

Llyfryddiaeth[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cestyll Tywysogion Gwynedd Arms of Llywelyn.svg
Abergwyngregyn | Castell Caergwrle | Castell Carndochan | Castell Carn Fadryn | Castell Prysor | Castell y Bere | Castell Cricieth | Castell Cynfael | Castell Degannwy | Castell Dinas Brân | Castell Dinbych | Castell Deudraeth | Dinas Emrys | Castell Dolbadarn | Castell Dolforwyn | Castell Dolwyddelan | Castell Ewlo | Tomen y Rhodwydd