Cadwallon ap Cadfan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.

Hanes[golygu]

Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".

Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mercia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meicen (neu Meigen: "Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.

Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.

Olynwyd Cadwallon gan ei fab, Cadwaladr ('Cadwaladr Fendigaid').

Moliant Cadwallon ac Afan Ferddig[golygu]

Credir fod y gerdd Moliant Cadwallon yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai Afan Ferddig a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy (Porth Sgiwed), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed.

Ceir cyfeiriad at Afan Ferddig mewn un o'r Trioedd: "Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan,"[2] sy'n awgrymu mai ef oedd bardd llys Cadwallon.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
  • R. Geraint Gruffydd (gol.), 'Canu Cadwallon ap Cadfan', yn Astudiaethau ar yr Hengerdd (gol. Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones, Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 25-43.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hanes Cymru gan John Davies, Llyfrau Penguin, 1990; tudalen 62.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1978).