Arllechwedd Uchaf

Oddi ar Wicipedia
Arllechwedd Uchaf
Mathcwmwd, gwrthrych daearyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArllechwedd Edit this on Wikidata
SirGwynedd, Arllechwedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaArllechwedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.234676°N 4.011712°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd yng ngogledd Teyrnas Gwynedd, ac un o dri chwmwd cantref Arllechwedd, gydag Arllechwedd Isaf a Nant Conwy, oedd Arllechwedd Uchaf. Fel gweddill y cantref, roedd yn rhan o Esgobaeth Bangor.

Tirwedd hanesyddol[golygu | golygu cod]

Mae Arllechwedd Uchaf yn ardal fynyddig a garw a ddominyddir gan gadwyn hir y Carneddau, ond mae'n cynnwys llain o dir isel ffrwythlon ar hyd yr arfordir yn y gogledd, yn wynebu Bae Conwy rhwng Bangor a Penmaenmawr. Lleolid canolfan y cwmwd a phrif lys y cantref ei hun yn Garth Celyn, Abergwyngregin, efallai ar safle plasdy Pen y Bryn. Yn ddiweddarach tyfodd Abergwyngregin yn brif lys i Wynedd gyfan yn oes Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd.

Arllechwedd Uchaf o Ynys Môn

Ffiniai'r cwmwd a chymydau Arllechwedd Isaf i'r dwyrain a Nant Conwy i'r de, ac â chantref Arfon (cwmwd Arfon Is Gwyrfai) i'r gorllewin gyda chwrs afon Ogwen a'r Glyderau yn dynodi'r ffin, a ymestynnai mor bell i'r de â Pen-y-gwryd yng nghanol Eryri. Gorweddai Capel Curig ar y ffin rhwng Arllechwedd Uchaf a Nant Conwy. Rhedai'r ffin rhwng Arllechwedd Uchaf ac Arllechwedd Isaf dros gymoedd dwyreiniol y Carneddau hyd lethrau Tal y Fan, gan gyrraedd y môr yn y Penmaen-bach (y penrhyn sydd rhwng Penmaenmawr a Morfa Conwy heddiw.

Roedd fferi brysur yn cysylltu'r cwmwd ag ardal Penmon ar Ynys Môn; rhaid oedd croesi Traeth Lafan gyda'r llanw allan i'w defnyddio. Rhedai'r hen ffordd Rufeinig rhwng Caer a Segontiwm dros Fwlch y Ddeufaen. Parheai'r ffordd yn llwybr pwysig yn yr Oesoedd Canol. Rhedai llwybr pwysig arall i fyny Dyffryn Ogwen i Gapel Curig. Mae'n ardal gyfoethog ei henebion, gan gynnwys safle bryngaer diflanedig Braich-y-Dinas a chylch cerrig y Meini Hirion ger llaw. Roedd y prif "drefi" canoloesol i gyd yn gorwedd ar y llain arfordirol ac yn cynnwys Cororion, Y Wig a Bodsilin, yn ogystal ag Abergwyngregin ei hun.

Pen y Bryn, Aber, safle tybiedig Garth Celyn, prif lys Arllechwedd Uchaf.

Yr ardal heddiw[golygu | golygu cod]

Erbyn heddiw mae rhan ddwyreiniol yr ardal yn gorwedd yn Sir Conwy tra bod y rhan ddwyreiniol yn gorwedd yn sir Gwynedd. Mae rhan helaeth y tir yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw ar y llain arfordirol.

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • A. D. Carr, 'Medieval Administrative Divisions', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1976)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]