Penmon

Oddi ar Wicipedia
Penmon
Priordy gerllaw'r pentref
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangoed Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Menai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3058°N 4.0567°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH623802 Edit this on Wikidata
Cod postLL58 Edit this on Wikidata
Map

Llecyn a phlwyf eglwysig ar gongl de-ddwyreiniol Ynys Môn yw Penmon (Pen 'terfyn, diwedd' + Môn). Mae'n gorwedd i'r gogledd o Fiwmares ac i'r dwyrain o blwyf Llangoed. Mae ei arfordir dwyreiniol yn gorwedd ar Afon Menai. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o cwmwd Dindaethwy, cantref Menai. Mae'n rhan o gymuned Llangoed a Phenmon.

Mae'r ardal yn cynnwys Priordy Penmon, Castell Aberlleiniog, a chymunedau bychain Trecastell ac Aberlleiniog. Trwyn Du yw enw'r penrhyn ar bwynt eithaf Penmon. Ceir goleudy, maes parcio a chaffi yno a chyferbyn mae Ynys Seiriol, gynt yn eiddo i briordy Penmon.

Mae yma fynachdy o'r 6g (Priordy Penmon) a gafodd ei ail-adeiladu wedyn yn y 12g. Mae dwy groes Geltaidd yn dyddio o tua'r 10g, oedd yn arfer sefyll y tu allan i'r mynachdy, yn awr i mewn yn yr eglwys.

Yn Oes y Tywysogion gorweddai Penmon yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr.

Ger priordy Penmon ceir colomendy i ddal bron i fil o nythod a deiladwyd yn 1600.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]