Tal y Fan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tal y Fan
Carneddau
Tal y Fan a Foel Lwyd o Drum
Llun Tal y Fan a Foel Lwyd o Drum
Uchder 610m / 2,001 troedfedd
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Cymru

Tal y Fan neu Tal-y-fan yw'r copa mwyaf gogleddol o'r Carneddau, wedi ei wahanu oddi wrth Drum gan Fwlch y Ddeufaen. Saif ychydig i'r de o Benmaenmawr ac ar ffin y gymuned honno ar yr arfordir ac i'r gorllewin o rannau isaf Dyffryn Conwy. Foel Lwyd yw'r copa fymryn yn is i'r gorllewin o'r prif gopa. Rhwng Tal y Fan a'r bryniau îs ger Penmaenmawr ceir rhosdir corslyd eang gyda afon Gyrrach, sy'n tarddu ar Tal y Fan, yn rhedeg drosto.

Ceir nifer o olion cynhanesyddol ar ei lethrau isaf, yn arbennig o gwmpas Bwlch y Ddeufaen, lle roedd y ffordd Rufeinig yn dilyn llwybr ffordd lawer hŷn, o Oes yr Efydd. Yn eu plith y mae cromlech Maen y Bardd, ar lethrau deheuol Tal y Fan.

Islaw llethrau dwyreiniol Tal y Fan ceir eglwys hynafol Llangelynin ("yr Hen Eglwys" ar lafar).

Gellir dringo Tal y Fan o sawl cyfeiriad. Y llwybr hawsaf yw hwnnw sy'n cychwyn o ben y lôn ym Mwlch y Ddeufaen. Gellir cyrraedd y copa o gyfeiriad Bwlch Sychnant, eglwys Llangelynin, Rowen, Penmaenmawr neu Lanfairfechan yn ogystal.

Mae llethrau gogleddol Tal y Fan a'r rhosdir uchel rhyngddo a bryniau Penmaenmawr yn lle da i weld merlod mynydd Cymreig.