Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru
Oddi ar Wicipedia
Caiff Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru (Saesneg: West Wales General Hospital) ei gynnal a'i wasanaethu gan Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, sydd hefyd efo'i bencadlys yn agos i'r safle, yn nhref Caerfyrddin.
Dyma'r ysbyty agosaf i fwyafrif poblogaeth canolbarth, gorllewin a gogledd Sir Gaerfyrddin a rhannau o ardaloedd de Ceredigion megis Llandysul. Dyma hefyd safle ysbyty mwyaf siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro ac ond yn un o ddau ysbyty o fewn 20 milltir o dref Caerfyrddin efo'r llall yn Llanelli.