D. J. Williams
Roedd David John Williams (26 Mehefin 1885 – 4 Ionawr 1970), neu D.J. Williams neu D.J. Abergwaun, yn llenor ac yn genedlaetholwr. Fe'i ganed yn Mhen-rhiw, ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i Abernant yn Hydref 1891. Fferm fach oedd Abernant a chan nad oedd digon o waith iddo gartref yn 1902, yn un ar bymtheg oed aeth i chwilio am waith ym maes glo de Cymru. Bu'n gweithio yn Ferndale, Cwm Aman, a Chwm Dulais, ond yn y diwedd penderfynodd ddewis cael mwy o addysg gan fynd i Ysgol Stephens, Llanybydder. Roedd yn gymeriad mawr er yn ddyn tawel ei hunan, a wnaeth gyfraniad pwysig i lên a diwylliant ei wlad; "Y Cawr o Rydcymerau".
Bu'n athro yn Abergwaun am flynyddoedd lawer ac felly fe gyfeirid ato yn aml fel 'D.J. Abergwaun'.
Cynnwys |
Y llenor [golygu]
Ysgrifenodd ddau hunangofiant wedi eu lleoli yn ardal Rhydcymerau, sef Hen Dŷ Ffarm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959). Roedd yn feistr ar y stori fer yn ogystal, fel y mae ei dair cyfrol gynnar, Storïau'r Tir (1936, 1941, 1949) yn dangos. Ystyrir ei gyfrol o bortreadau o rai o hen gymeriadau ei fro enedigol, Hen Wynebau, yn glasur o'i fath.
Y gwladgarwr [golygu]
Roedd yn genedlaetholwr brwd. Yn aelod o'r ILP cyn sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru heddiw) yn 1925. Roedd D.J., ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, yn gyfrifol am losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Methodd y rheithgor a chytuno a oeddent yn euog yn llys y Goron yng Nghaernarfon, ac o ganlyniad bu ail achos yn eu herbyn yn yr Old Bailey pan y'i cafwyd yn euog ac fe'u carcharwyd.
Roedd cyflwr ariannol Plaid Cymru yng nghanol y 1960au yn echrydus ac mae'n amheus a fyddai wedi gallu ymladd Etholiad Cyffredinol 1966 oni bai i D.J. werthu Penrhiw sef yr Hen Dŷ Ffarm yn ei gyfrol adanbyddus, a rhoi'r arian i Blaid Cymru.
Llyfryddiaeth [golygu]
Gwaith D.J. [golygu]
- Hen Wynebau (1934)
- Storïau'r Tir Glas (1936)
- Storïau'r Tir Coch (1941)
- Storïau'r Tir Du (1949)
- Hen Dŷ Ffarm (1953)
- Mazzini (1954)
- Yn Chwech ar Hugain Oed (1959)
- Codi'r Faner (1968)
- Y Gaseg Ddu (1970). Gol. J. Gwyn Griffiths.
Cyhoeddwyd casgliad o gerddi er cof amdano yn y gyfrol Y Cawr o Rydcymerau (gol. D. H. Culpitt ac W. Leslie Richards, 1970). Hefyd cyfrol deyrnged iddo wedi ei golygu gan J. Gwyn Griffiths
Cyfieithodd Waldo Williams Hen Dy Ffarm i'r Saesneg The Old Farm House
Astudiaethau a llyfrau eraill [golygu]
Ceir llyfryddiaeth lawn yn atodiad i'r gyfrol Y Gaseg Ddu.
- Dafydd Jenkins, D.J. Williams (cyfres Writers of Wales, 1973)
- Emyr Hywel (gol.), Annwyl D.J. Llythyrau D.J., Saunders a Kate (Y Lolfa, 2008). Gohebiaeth D.J., Saunders Lewis a Kate Roberts.