Tân yn Llŷn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr y bamffled Coelcerth Rhyddid a gyhoeddwyd gan Blaid Genedlaethol Cymru yn 1937 i groesawu'r "Tri" nôl i Gymru ar 27 Awst yn y flwyddyn honno, wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar Wormwood Scrubs

Defnyddir yr ymadrodd Tân yn Llŷn am y weithred o losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ffermdy hynafol ger Penrhos, Pwllheli, ar 8 Medi 1936 gan D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis. Ar ôl gweithredu, aeth y tri i orsaf yr heddlu i ddweud wrthyn nhw beth oeddan nhw wedi wneud.

Cefndir[golygu]

Yr oedd y llywodraeth Brydeinig eisiau adeiladu ysgol fomio, canolfan i hyfforddi peilotiaid i ollwng bomiau o'r awyr, ac eisoes wedi ceisio codi un yn Northumberland ac yn Dorset ond fe ildiodd i brotestiadau a dadleuon gan naturiaethwyr a hynafiaethwyr lleol a hefyd ledled Lloegr. Yr oedd gwrthwynebiad i adeiladu'r ysgol fomio yng Nghymru hefyd ar seiliau heddychaeth, diwylliannol ac amgylcheddol, ond fe roddodd Saunders Lewis y lle blaenaf i genedlaetholdeb. Gwrthododd y Prif Weinidog hyd yn oed dderbyn dirprwyaeth Gymreig, yn gwbl groes i'w agwedd tuag at y protestiadau yn Lloegr.

Ffermdy cyffredin oedd Penyberth i'r awdurdodau Prydeinig, ond i'r Cymry diwylliedig roedd ganddo le arbennig fel plasdy a fu'n gartref i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg yn Llŷn. Ganed y reciwsant o Gymro ac awdur Cymraeg Robert Gwyn (tua 1540/1550 - 1592/1604) ym Mhenyberth. Cred rhai ysgolheigion mai ef yn lle ei gymrodor Gruffydd Robert oedd awdur Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Roedd yn fab i Siôn Wyn ap Thomas Gruffudd o Benyberth a'i wraig Catrin.

Yr achos llys[golygu]

Methodd y rheithgor gael y tri yn euog yn y prawf yng Nghaernarfon a bu rhaid cael achos arall yn Lloegr, yn yr Old Bailey yn Llundain, lle y cafwyd nhw yn euog ac fe ddedfrydwyd y tri i naw mis o garchar. Pan gawsant eu rhyddhau ar 27 Awst 1937 roedd torf o dros bymtheg mil yng Nghaernarfon yn ei croesawu yn ôl i Gymru.

Cyhoeddwyd pamffled enwog Paham y Llosgasom yr Ysgol Fomio (1937) gan y blaid i ddathlu rhyddhau "Y Tri"; ystyrir annerchiad gwleidyddol Saunders Lewis yn y llyfryn yn un o'i bwysicaf. Cyhoeddwyd pamffled arall, Coelcerth Rhyddid yn ogystal, i'w dosbarthu i'r cefnogwyr a'r cyhoedd ar 27 Awst, 1937, pan ddychwelasant i Gymru ar ôl cael eu rhyddhau o garchar Wormwood Scrubs. Cawsant groeso gan dorf o tua 15,000 ar y Maes yng Nghaernarfon.

Yn cynorthwyo'r tri ar y noson roedd pedwar gŵr; ni chyhoeddwyd eu henwau tan yr 1980au ac ni chawsant mo'u herlyn. Y pedwar oedd: O. M. Roberts, J. E. Jones, Victor Hampson Jones a Robin Richards.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • D. Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party 1925-1945 (1983)
  • Dafydd Jenkins, Tân yn Llŷn (1937; argraffiad newydd, Caerdydd, 1975)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 'Rhywbeth Bob Dydd' gan Hafina Clwyd; cyhoeddwyd yn 2008; tudalen 118.