Kate Roberts
| Kate Roberts | |
|---|---|
| Geni | Kate Roberts 13 Chwefror 1891 Rhosgadfan, Sir Gaernarfon, Cymru |
| Marw | 4 Ebrill, 1985 Dinbych |
| Galwedigaeth | Llenores |
| Cenedligrwydd | Cymraes |
| Addysg | Ysgol Dr Williams, Dolgellau. |
| Math o lên | Nofelau, straeon byrion |
| Gwaith nodedig | Traed Mewn Cyffion, O Gors y Bryniau, Te yn y Grug |
| Priod | Morris Williams |
| Dylanwad | Dic Tryfan |
Yr oedd Kate Roberts (13 Chwefror 1891 - 4 Ebrill 1985) yn llenor enwog yn y Gymraeg. Fe'i ganed ym mhentref Rhosgadfan, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) a bu farw yn Ninbych. Gelwir Kate Roberts yn "Frenhines y stori fer".
Cynnwys |
Ei hoes[golygu]
Ganed Kate Roberts yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan. Roedd ei thad yn chwarelwr. Yn ddiweddarach byddai'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir hollbwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar. Mae ei chyfrol hunangofiannol Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal yn y cyfnod hwnnw. Mae bwthyn Cae'r Gors wedi'i atgyweirio a'i droi'n amgueddfa i'r awdures, a hynny ar ôl brwydr hir iawn i gael yr arian i wneud hynny.
Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor. Bu'n athrawes yn Ystalyfera, ne Cymru am gyfnod.[1]
Gyda'i gŵr, Morris Williams, roedd hi'n rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych. Bu ei gŵr farw ym 1946, a bu'n rhedeg Gwasg Gee am 10 mlynedd ar ei phen ei hun. Yn ei lyfr, Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985, awgryma Alan Llwyd fod gan Roberts dueddiadau hoyw.[2]
Ei gwaith llenyddol[golygu]
Yn ei blynyddoedd cynnar fel llenor ysgrifennai nofelau a storïau byrion am dlodi a chaledi ardal y chwareli yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach, ar ôl symud i Ddinbych a phriodi, troes at ysgrifennu nofelau a straeon mwy seicolegol gydag unigrwydd yn thema amlwg ynddynt. Cyfieithwyd rhai o'u gweithiau i'r Saesneg ac i ieithoedd eraill.
Llyfryddiaeth[golygu]
Gwaith Kate Roberts[golygu]
- O Gors y Bryniau (1925). Storïau byrion.
- Deian a Loli (1927)
- Rhigolau Bywyd (1929). Storïau byrion.
- Laura Jones (1930). Nofel fer.
- Traed Mewn Cyffion (1936). Nofel.
- Ffair Gaeaf (1937). Storïau byrion.
- Stryd y Glep (1949). Nofel fer.
- Y Byw sy'n Cysgu (1956). Nofel.
- Te yn y Grug (1959). Storïau byrion.
- Y Lôn Wen (1960). Atgofion bore oes.
- Tywyll Heno (1962). Nofel.
- Hyn o Fyd (1964)
- Tegwch y Bore (1967)
- Prynu Dol (1969)
- Gobaith (1972)
- Yr Wylan Deg (1976). Storïau byrion.
- Haul a Drycin (1981)
Llyfrau am Kate Roberts[golygu]
- Bobi Jones (gol.), Kate Roberts: Cyfrol Deyrnged (Gwasg Gee, Dinbych, 1969)
Dolen allanol[golygu]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Biography of Kate Roberts ‘may surprise’ Gwefan WalesOnline. Karen Price. 19-11-2011. Adalwyd ar 22-11-2011
- ↑ Kate a gwraig y cigydd Gwefan Golwg 360. 18-11-2011. Adalwyd ar 22-11-2011
| Llyfrau Kate Roberts | |
|---|---|
| Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Laura Jones | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | |