William Evans (Wil Ifan)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun Wil Ifan yng ngwisg yr Archdderwydd ar glawr blaen Y Corn Gwlad, cylchgrawn Gorsedd y Beirdd.

Yr oedd William Evans neu Wil Ifan (22 Ebrill 1883 - 16 Gorffennaf 1968) yn fardd a ffigwr pwysig ym myd yr Eisteddfod.

Braslun o'i fywyd[golygu]

Ganwyd Wil Ifan yn fab i weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr Cymraeg, y Dr Dan Evans a'i briod, a oedd yn cartrefu yr adeg honno yng Nghwmbach, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin. Galwyd ef yn William Evans a chafodd pob cefnogaeth gan ei rieni ac ysgolion da i baratoi ei hun, ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, y Coleg Diwinyddol a Choleg Manceinion, Rhydychen. Treuliodd William Evans ei holl fywyd yn weinidog yr Efengyl gyda'r Annibynwyr Saesneg. Roedd yn gwbl gysurus yn y ddwy iaith. Iaith crefydd oedd Saesneg, iaith yr aelwyd yn Gymraeg. Priododd Nesta Wyn Edwards o Ddolgellau, hithau fel yntau yn raddedig o Brifysgol Cymru, a ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu farw ym Mhenybont-ar-Ogwr a chladdwyd ef yn Rhydymain, Meirionnydd.

Ei waith llenyddol[golygu]

Bardd[golygu]

Y delyneg oedd ei hoff gyfrwng fel bardd a chafwyd toreth ohonynt. Darllener y rhain yn ei gyfrolau, er enghraifft, Dros y Nyth a ddaeth allan yn 1915; Dail Iorwg a gyhoeddwyd yn 1919; Plant y Babell a welodd olau dydd yn 1922; O Ddydd i Ddydd a dderbyniodd groeso y beirniaid yn 1927; Y Winllan Las a blesiodd bobl lengar Bro Morgannwg lle preswyliai y bardd-bregethwr yn 1936; Unwaith Eto a gyhoeddwyd yn 1946; ac ar ol hynny cyhoeddwyd Haul a Glaw.

Dyna gynhaeaf da ond lluniodd gyfrolau o farddoniaeth yn Saesneg yn ogystal; pum cyfrol yn y cyfnod ffrwythlon yma.

I raddau ei gyfraniad parhaol fu ei bryddest enwog 'Bro fy Mebyd' yn 1925. Enillodd y Goron deirgwaith a bu'n Archdderwydd yr Orsedd o 1947 hyd 1950.

Colofnydd[golygu]

Nid bardd yn unig mohono. Ysgrifennai yn gyson golofn Gymraeg i'r Western Mail ac y mae ei waith gorau wedi ei osod ar gof a chadw yn y Filltir Deg (1954) a Colofnau Wil Ifan (1962).

Dramodydd[golygu]

Ymddiddorodd yn y ddrama a bu yn un o arloeswyr y mudiad fel y gwelwn yn Y Dowlad (1922) ac Yr Het Goch (1933) i enwi dwy o'r chwech drama a luniodd yn Gymraeg ac un yn Saesneg.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cyfrolau Wil Ifan[golygu]

  • Dros y Nyth (1915)
  • Dail Iorwg (1919)
  • Plant y Babell (1922)
  • O Ddydd i Ddydd (1927)
  • Y Winllan Las (1936)
  • Unwaith Eto (1946)
  • Y Filltir Deg (1954)
  • Colofnau Wil Ifan (1962)

Darllen pellach[golygu]

  • D. Ben Rees, Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (1972).