Kentchurch

Oddi ar Wicipedia
Kentchurch
Eglwys y Santes Fair, Kentchurch
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod Unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.9261°N 2.8456°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000783 Edit this on Wikidata
Cod OSSO415255 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Kentchurch[1] (Cymraeg: Llan-gain).[2] Saif 10 milltir i'r de-orllewin o Henffordd, bron ar y ffin â Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, gyferbyn â phentref Y Grysmwnt yn y sir honno.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 257.[3]

Ceir traddodiadau sy'n cysylltu'r bardd Cymraeg canoloesol Siôn Cent â Kentchurch. Cyfeirir at "Ysgubor Siôn Cent" a "Derwen Siôn Cent" ym mharc plasdy y teulu Scudamore yn Kentchurch, er enghraifft. Mae cysylltiad rhwng y Scudamores ac Owain Glyn Dŵr yn ogystal; mae traddodiad fod Owain wedi cael lloches ym Monnington gyda'i ferch Alys, a oedd yn briod â John Scudamore, a'i fod wedi ei gladdu yn Kentchurch.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 18 Hydref 2019
  2. Geiriadur yr Academi, "Llangain"
  3. City Population; adalwyd 18 Hydref 2019