Llanfihangel Rhos-y-corn

Oddi ar Wicipedia
Llanfihangel-rhos-y-corn
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth468 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,098.73 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.983°N 4.117°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000524 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Cymuned a phlwyf eglwysig yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanfihangel-rhos-y-corn. Gorwedd yn y bryniau i'r gogledd o bentref Brechfa ac i'r gorllewin o Abergorlech. Mae rhan ddeheuol y plwyf yn rhan o Fforest Brechfa. Mae eglwys y plwyf yn dyddio o'r 13g ac yn gorwedd yn uchel ar y bryniau.

Ardal o fryniau isel a choedydd ydyw, gydag afon Clydach, un o ledneintiau afon Cothi, yn llifo trwy gwm dwfn yn ei chanol. Yr unig gymuned o faint yno yw pentref bychan Gwernogle, ar lan afon Clydach. Yng ngogledd-orllewin y plwyf, tua hanner ffordd rhwng Brechfa i'r de a Llanfihangel-ar-Arth i'r gogledd, ceir Mynydd Llanfihangel-rhos-y-corn (356 m), gyda charnedd cynhanesyddol ar ei gopa.

Yr enw yn yr Oesoedd Canol ar fforest frenhinol a orchuddiai rhannau helaeth o blwyfi Llanybydder a Llanfihangel-rhos-y-corn oedd Glyn Cothi. Ymddengys fod y bardd canoloesol enwog Lewys Glyn Cothi (tua 1245 - tua 1490) wedi ei eni yno, efallai tua'r flwyddyn 1425.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel-rhos-y-corn (pob oed) (468)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel-rhos-y-corn) (185)
  
40.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel-rhos-y-corn) (224)
  
47.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfihangel-rhos-y-corn) (72)
  
34.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]