Castell y Dryslwyn
Castell yn Sir Gaerfyrddin yw Castell y Dryslwyn. Saif ar ben bryn yn Nyffryn Tywi ger pentref Dryslwyn. Tua 4 milltir i ffwrdd mae Castell Dinefwr, prif gaer a llys tywysogion Deheubarth.
Hanes [golygu]
Adeiladwyd y castell cyntaf gan Rhys Gryg, un o feibion yr Arglwydd Rhys, yn y 1220au. Fe'i hetifeddwyd gan ei fab Maredudd ap Rhys Gryg a'i fab yntau Rhys ap Maredudd. Gwarchaewyd y castell gan luoedd Seisnig yn 1287, gan gwympo ar 5 Medi yn yr un flwyddyn. O dan reolaeth Seisnig estynwyd y dref fechan oedd wedi datblygu ar lethrau'r bryn. Cipiodd Owain Glyndŵr Gastell y Dryslwyn ym 1403, ond dymchwelwyd y castell nes ymlaen yn y 15fed ganrif.
Cadwraeth a mynediad [golygu]
Mae'r adfeilion a welir ar y safle heddiw yng ngofal Cadw. Mae'n agored trwy'r flwyddyn i bawb. Mae'r safle (SN 554 204) yn ymyl y B4297, 5 milltir i'r de-orllewin o Landeilo.
| Cestyll Tywysogion Deheubarth | |
|---|---|
| Aberdyfi | Aberteifi | Carreg Cennen | Dinefwr | Y Dryslwyn | Nanhyfer | Newydd Emlyn | Rhaeadr Gwy | Trefilan | Ystradmeurig | |