Dinan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dyffryn afon Renk

Cymuned a thref yng ngogledd-ddwyrain Llydaw yw Dinan. Saif yn département Aodoù-an-Arvor. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 11,235.

Saif y dref ar lethrau bryn uwchben afon Renk, ychydig cyn i'r afon honno gyrraedd y môr rhwng Saint-Malo a Dinard. Hyd yn ddiweddar, Dinan oedd y fan fwyaf gogleddol lle gellid croesi'r afon, ac roedd ar ffordd bwysig rhwng Normandi a dwyrain Llydaw. Mae un darn o Frodwaith Bayeux yn dangos Dinan yn cael ei dinistrio gan Gwilym Goncwerwr yn yr 11eg ganrif.

Yn 1357, ymosodwyd ar Dinan gan fyddin Seisnig, ond amddiffynnwyd y dref yn llwyddiannus gan Bertrand du Guesclin, oedd wedi ei eni yn Broons gerllaw. Ceir cerflun ohono yn y dref. Mae'r castell, y Château de Dinan, yn nodedig.