Bertrand du Guesclin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun Bertrand du Guesclin yn Dinan

Uchelwr Llydewig a chadfridog Ffrengig yn y Rhyfel Can Mlynedd oedd Bertrand du Guesclin, Llydaweg: Beltram Gwesklin (c. 1320 - 13 Gorffennaf 1380). Adnabyddid ef fe; "Eryr Llydaw", ac roedd yn gyfaill i Owain Lawgoch. Llwyddodd i adennill y rhan fwyaf o Ffrainc o afael brenin Lloegr.

Ganed Bertrand du Guesclin yn Broons, ger Dinan, yn Llydaw. Roedd ei deulu yn fân-uchelwyr Llydewig. Ar ddechrau ei yrfa, roedd yng ngwasanaeth Siarl o Blois yn Rhyfel Olyniaeth Llydaw (1341-1364). Gwnaed ef yn farchog yn 1354. Yn 1356-1357, daeth Du Guesclin i sylw'r Dauphin Siarl trwy amddiffyn dinas Roazhon, oedd dan warchae gan y Saeson.

Yn 1364, daeth Siarl yn frenin Ffrainc fel Siarl V, a gyrrodd Du Guesclin i ymladd yn erbyn Siarl II, brenin Navarra, oedd yn ceisio meddiannu Dugiaeth Bwrgwyn. Llwyddodd i orchfygu byddin Navarra dan Jean de Grailly, Captal de Buch ym Mrwydr Cocherel. Ym mis Medi 1364, gorchfygwyd ef a Siarl o Blois gan Ioan V, Dug Llydaw a byddin Seisnig dan Syr John Chandos. Lladdwyd Siarl a chymerwyd Du Guesclin yn garcharor. Talodd Siarl V 100,000 ffranc i'w ryddhau.

Yn 1366 a 1367, bu'n ymladd yn Sbaen; yn llwyddiannus yhn 166, ond cymerwyd ef yn garcharor eto yn 1367, gan orfodi Siarl V i dalu i'w ryddhau unwaith eto. Ail-ddechreuodd y rhyfel yn erbyn Lloegr yn 1369, a llwyddodd Du Guesclin i adfeddiannu Poitou a Saintonge, a gyrru'r Saeson o Lydaw rhwng 1370 a 1374. Roedd wedi adfeddiannu'r rhan fwyaf o Ffrainc erbyn iddo farw tra ar ymgyrch yn Chateauneuf-de-Randon yn Languedoc. Claddwyd ef yn Saint-Denis gyda brenhinoedd Ffrainc.