Colunwy

Oddi ar Wicipedia
Colunwy
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoly Mers, Teyrnas Powys Edit this on Wikidata
SirTeyrnas Powys, Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Tefeidiad Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCeri, Maelienydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4214°N 3.0297°W Edit this on Wikidata
Map

Yn yr Oesoedd Canol, arglwyddiaeth yn Swydd Amwythig wrth y ffin â Chymru oedd Colunwy (Saesneg: Clun). Cyn hynny bu'n rhan o hen deyrnas Powys, efallai fel cwmwd yn y deyrnas honno.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu Colunwy yn rhan o Bowys ar adeg pan roedd y deyrnas honno yn cynnwys rhan sylweddol o'r Swydd Amwythig ddiweddarach a rhan o Swydd Henffordd. Arhosodd yn ardal Gymraeg ei hiaith am ganrifoedd.

Gorweddai Colunwy yn ne-orllewin Swydd Amwythig, yn nhiriogaeth arglwyddi Normanaidd y Mers. Ffiniai'r arglwyddiaeth strategol â chymydau Ceri a Maelienydd yn ardal Rhwng Gwy a Hafren, i'r gorllewin yng nghanolbarth Cymru, a rhan o Swydd Henffordd i'r de. Llifa afon Tefeidiad trwy'r diriogaeth. Un o'r prif ganolfannau oedd tref Clun, lle ceir castell Normanaidd.

Llwyddodd Llywelyn ap Gruffudd i adennill rhan orllewinol Colunwy o ddwylo'r Eing-Normaniaid yn 1263 yn ei ymgyrch i sefydlu ei awdurdod yn ardal Trefaldwyn.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 133-4.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato