Yr Hôb
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint yw Yr Hôb (Saesneg: Hope), yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae ganddo boblogaeth o 2,522 (2001).
Gorwedd y pentref tua 4.5 km o'r ffin â Lloegr (Swydd Gaer), ar lannau Afon Alun. Mae'r Hob yn un o grŵp bychan o bentrefi lleol sy'n perthyn yn agos iawn i'w gilydd, yn cynnwys Caergwrle, Abermorddu a Cefn-y-Bedd. Prif dirffurf yr ardal yw Mynydd yr Hob, i'r gorllewin o'r pentref, gyda chwarel arno sydd wedi cau bellach.
Lleolir Ysgol Uwchradd Castell Alun yn y pentref; ceir ysgol gynradd yn ogystal, sef Ysgol Estyn.
Mae cysylltiadau cludiant da yn cysylltu'r Hôb a lleoedd fel Wrecsam, Caer a'r Wyddgrug, ac mae Reilffordd y Gororau yn ei gysylltu â Lerpwl i'r gogledd-ddwyrain.
Weithiau cyfeirir at Gastell Caergwrle fel "Castell yr Hôb," am ei fod yn gorwedd rhwng y ddau le.
Abermorddu · Afon-wen · Babell · Bagillt · Bistre · Bretton · Brychdyn · Brynffordd · Bwcle · Caergwrle · Caerwys · Carmel · Cefn-y-bedd · Cei Connah · Cilcain · Coed-llai · Coed-talon · Cymau · Chwitffordd · Ewlo · Y Fflint · Ffrith · Ffynnongroyw · Glan-y-don · Gorsedd · Gronant · Gwaenysgor · Gwernymynydd · Gwernaffield-y-Waun · Gwesbyr · Helygain · Higher Kinnerton · Yr Hob · Licswm · Llanasa · Llaneurgain · Llanferres · Llanfynydd · Llannerch-y-môr · Maes-glas · Mancot · Mostyn · Mynydd Isa · Nannerch · Nercwys · Neuadd Llaneurgain · Oakenholt · Pantasaph · Pant-y-mwyn · Penarlâg · Pentre Ffwrndan · Pentre Helygain · Pen-y-ffordd · Pontblyddyn · Pontybotgyn · Queensferry · Rhes-y-cae · Rhosesmor · Rhyd Talog · Rhyd-y-ceirw · Rhydymwyn · Saltney · Saltney Ferry · Sandycroft · Sealand · Shotton · Sychdyn · Talacre · Treffynnon · Trelawnyd · Trelogan · Treuddyn · Yr Wyddgrug · Ysgeifiog