Llannerch (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia
Llannerch (cwmwd)
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaColion, Dogfeiling Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0719°N 3.327°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEsgobaeth Bangor Edit this on Wikidata
Erthygl am y cwmwd yn Nyffryn Clwyd yw hon. Am y cwmwd ym Mhowys, gweler Llannerch Hudol. Gweler hefyd Llannerch.

Cwmwd canoloesol yng nghantref Dyffryn Clwyd, gogledd-ddwyrain Cymru, oedd Llannerch, gydag arwynebedd o tua 9,000 erw (14 millt sg.; 3,600 hectar). Gyda Colion a Dogfeiling, roedd yn un o dri chwmwd y cantref hwnnw. Gorweddai Llannerch yn ne-ddwyrain Dyffryn Clwyd, oddeutu'r pentrefi Llanfair Dyffryn Clwyd a Llanelidan. Ffiniai â Dogfeiling a Colion i'r gorllewin, o fewn yr un cantref, darn o Edeirnion i'r de, ac Iâl i'r dwyrain.

Roedd yn gwmwd coediog ar lethrau Bryniau Clwyd, gan ddisgyn oddi yno i lawr y dyffryn ar ben uchaf Dyffryn Clwyd ei hun, lle ceid y tir y amaethyddol gorau.

Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, aeth Llannerch, fel gweddill y cantref, yn rhan o arglwyddiaeth Rhuthun. Ceir manylion am y cwmwd yn y 'stent' (arolwg ar gyfer y Goron) o'r arglwyddiaeth yn 1324, sy'n cynnig deunydd gwerthfawr i'r hanesydd am fywyd pobl gyffredin yn y cyfnod hwnnw.

Aeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Ddinbych newydd yn 1536. Gorwedd o hyd yn y sir honno, er nad ydyw'n uned o unrhyw fath heddiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato