Pen Caer (cwmwd)

Oddi ar Wicipedia

Un o ddau gwmwd cantref Pebidiog yn Nyfed, de-orllewin Cymru, oedd Pen Caer. Fe'i enwir ar ôl y penrhyn o'r un enw, Pen Caer, yng ngogledd Sir Benfro.

Gorweddai Pen Caer yn rhan dwyreiniol cantref Pebidiog gyda arfordir hir creigiog yn y gogledd. Ffiniai â Mynyw, ail gwmwd Pebidiog i'r gorllewin, cwmwd Uwch Nyfer (cantref Cemais) i'r dwyrain, a rhannau o gantrefi Daugleddau a Rhos i'r de.

Roedd y prif ganolfannau yn cynnwys Casmorys, Llanwnda, Mathri a Maenorowen. Roedd yn rhan o deyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol Cynnar ac wedyn yn rhan o Ddeheubarth cyn syrthio i'r Normaniaid am gyfnod.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.