Creuddyn (Ceredigion)

Oddi ar Wicipedia
Creuddyn (Ceredigion)
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPenweddig Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.372°N 3.962°W Edit this on Wikidata
Map
Am y cwmwd yn Rhos, gogledd Cymru, gweler Creuddyn (Rhos). Gweler hefyd Creuddyn (gwahaniaethu).

Cwmwd canoloesol yng ngogledd Ceredigion rhwng afonydd Rheidol ac Ystwyth oedd y Creuddyn. Gyda chymydau Genau'r Glyn a'r Perfedd, ffurfiai gantref Penweddig.

Gorwedd y cwmwd rhwng arfordir Bae Ceredigion i'r gorllewin a bryniau Elenydd i'r dwyrain. I'r gogledd mae'n ffinio â chwmwd Perfedd gydag afon Rheidol yn dynodi rhan helaeth y ffin. I'r de ffiniai â chwmwd Mefenydd gydag afon Ystwyth yn dynodi'r ffin. I'r dwyrain roedd yn ffinio ag Arwystli ym Mhowys.

Mae rhan ddwyreiniol yn cwmwd yn ardal o fryniau. Cedwir enw'r cwmwd yn enw pentref Llanfihangel-y-Creuddyn. Roedd rhan isaf y cwmwd yn perthyn i Llanbadarn Fawr ac yn cael ei enwi'n Llanbadarn y Creuddyn mewn canlyniad.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]