Jane Dodds

Oddi ar Wicipedia
Jane Dodds
Ganwyd13 Medi 1963 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, gweithiwr cymdeithasol Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd Cymru Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolDemocratiaid Rhyddfrydol Cymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.janedodds.wales/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Gymraes yw Jane Dodds (ganwyd 13 Medi 1963) ac Aelod o'r Senedd dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ers Mai 2021. Mae hefyd yn Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ar ôl cael ei hethol i'r swydd yn 2017. Enillodd isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed ar 1 Awst 2019 Brycheiniog a Sir Faesyfed gan ddod yn Aelod Seneddol yr etholaeth. Collodd y sedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019.

Bywyd cynnar a phersonol[golygu | golygu cod]

Cafodd Dodds ei geni a'i magu yn Wrecsam, yn ferch i Eirwyn a Marjorie Dykins[1]. Mae'n siarad Cymraeg. Astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd ac ers hynny mae wedi hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol, gan weithio i Fyddin yr Iachawdwriaeth mewn Gwasanaethau Amddiffyn Plant. Mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o awdurdodau lleol, yn ogystal ag arwain Adran Plant Cyngor y Ffoaduriaid.

Bywyd gwleidyddol[golygu | golygu cod]

Etholwyd Dodds yn un o dri chynghorydd yn ward Gogledd Richmond, Cyngor Bwrdeistref Richmond upon Thames, Llundain yn 2006. Ar ôl colli ei sedd yn 2010, roedd yn ymgeisydd isetholiad ar gyfer yr un ward ym mis Mai 2012, lle dywedwyd ei bod ei hymgyrch wedi dioddef o herwydd taflenni ffug a gynhyrchwyd yn ei henw. [2]

Yn etholiadau cyffredinol San Steffan 2015 a 2017, safodd yn y cyn sedd Democratiaid Rhyddfrydol Trefaldwyn a ddalwyd gan y blaid (yn fwyaf diweddar) o 1983 i 2010 gan Alex Carlile ac yna Lembit Öpik. Fe wnaeth gystadlu yn etholaeth gyfatebol Maldwyn yn etholiad Cynulliad Cymru, 2016. Daeth Dodds a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail ar bob ymgais, gyda'r ymgeisydd Ceidwadol yn cael ei ethol bob tro.

Yn 2019 cafodd ei dewis fel ymgeisydd San Steffan ar gyfer isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed [3] wedi i'r aelod ar y pryd, Christopher Davies cael ei adalw [4] ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o dwyllo wrth gyflwyno hawliad am dreuliau seneddol [5]. Penderfynodd Plaid Cymru [6] a'r Blaid Werdd i beidio â chodi ymgeisydd i sefyll yn yr isetholiad er mwyn gwella cyfle Dodds i ennill. Roedd Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Y gred oedd mai'r Rhyddfrydwyr Democrataidd oedd y blaid aros fwyaf tebygol o ennill yr etholiad. [7]

Cynhaliwyd yr isetholiad ar 1 Awst 2019 gyda Dodds yn llwyddo i gipio'r sedd. [8]

Senedd Cymru
Rhagflaenydd:
'
Aelod o'r Senedd dros Canolbarth a Gorllewin Cymru
2021 –
Olynydd:
deiliad
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Christopher Davies
Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed
2019 – 2019
Olynydd:
Fay Jones

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Marjorie Dykins obituary". Guardian (yn Saesneg). 2015-11-15. Cyrchwyd 2023-03-03.
  2. "Police Investigate Fake Election Leaflets". HuffPost UK (yn Saesneg). 2012-05-12. Cyrchwyd 2019-07-21.
  3. Welsh Liberal Democrats (9 March 2019). "Jane Dodds selected to fight Brecon and Radnorshire". Welsh Liberal Democrats. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-21. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2019.
  4. Cyngor Powys - Hysbysiad cyhoeddus o'r ddeiseb i adalw AS Brycheiniog a Sir Faesyfed Chris Davies Archifwyd 2019-04-25 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Gorffennaf 2019
  5. Golwg360 25 Ebrill 2019 Chris Davies yn wynebu deiseb i’w ddiswyddo adalwyd 21 Gorffennaf 2019
  6. Golwg360 5 Gorffennaf 2019 Is-etholiad Brycheiniog a Maesyfed: Plaid Cymru ddim yn sefyll adalwyd 21 Gorffennaf 2019
  7. BBC Cymru Fyw 5 Gorffennaf 2019 Chwe ymgeisydd yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed adalwyd 21 Gorffennaf 2019
  8. BBC Cymru Fyw Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill isetholiad arwyddocaol adalwyd 2 Awst 2019