Alex Carlile

Oddi ar Wicipedia
Alex Carlile
Y Gwir Anrhydeddus
Yr Arglwydd Carlile o Aberriw
CBE FRSA QC
Aelod Seneddol
dros Maldwyn
Yn ei swydd
11 Mehefin 1983 – 1 Mai 1997
Rhagflaenydd Delwyn Williams
Olynydd Lembit Opik
Manylion personol
Ganwyd (1948-02-12) 12 Chwefror 1948 (76 oed)
Cenedligrwydd Prydeinig
Plaid wleidyddol Y Democratiaid Rhyddfrydol
Alma mater Coleg y Frenin, Llundain
Proffesiwn Bargyfreithiwr

Mae Alexander Charles Carlile, y Barwn Carlile o Aberriw, CBE, FRSA, QC (ganwyd 12 Chwefror 1948) yn aelod y Democratiaid Rhyddfrydol o Dŷ'r Arglwyddi ac yn gyn Aelod Seneddol etholaeth Maldwyn.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Mae Alex Carlile, a anwyd yn Alexander C. Falik, yn fab i fewnfudwyr Iddewig Pwylaidd i Wledydd Prydain. Fe'i ganwyd yn Wrecsam a chafodd ei fagu yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaerhirfryn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Epsom ac yng Ngholeg y Brenin, Llundain lle graddiodd yn y Gyfraith ym 1969.

Gyrfa tu allan i wleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Galwyd ef i'r Bar yn Gray's Inn ym 1970 a daeth yn Gwnsler y Frenhines yn 36 oed, sef oedran anghyffredin i dderbyn y fath anrhydedd.

Mae'r Arglwydd Carlile o Aberriw yn fargyfreithiwr ac yn gyn-bennaeth siambrau cyfreithiol blaenllaw 9-12 Bell Yard. Ymysg ei achosion nodedig oedd ei amddiffyniad llwyddiannus o Paul Burrell cyn fwtler Diana, Tywysoges Cymru, yn erbyn cyhuddiad ei fod wedi dwyn eiddo a oedd yn rhan o'i ystâd wedi marwolaeth y dywysoges.

Yn ôl Cofrestr Buddiannau'r Arglwyddi mae'r Arglwydd Carlile hefyd yn gyfarwyddwr o 5 Bell Yard Cyf a Grŵp Wynnstay sy'n cynhyrchu porthiant amaethyddol, yn masnachu nwyddau amaethyddol ac yn dosbarthu olew; mae o'n Ddirprwy Farnwr Yr Uchel Lys; yn Gadeirydd y Tribiwnlys Apeliadau Cystadleuaeth ac yn un o ymddiriedolwyr y White Ensign Association.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Carlile fel Rhyddfrydwr yn nwy etholiad 1974 ac etholiad 1979 yn etholaeth Dwyrain Sir y Fflint heb lwyddiant. Safodd yn etholaeth Maldwyn ym 1983 gan adfer sedd a gollwyd gan ei blaid i'r Ceidwadwyr ym 1979. Cadwodd afael ar y sedd i'r Rhyddfrydwyr ym 1983 a 1987.

Wedi uno'r Blaid Ryddfrydol a'r Democratiaid Cymdeithasol ym 1988, llwyddodd i gadw ei sedd fel Democrat Rhyddfrydol yn etholiad 1992, ond penderfynodd ymddeol o'r Senedd ar gyfer etholiad 1997.

Rhwng 1980 a 1982, roedd Carlile yn Gadeirydd y Blaid Ryddfrydol Gymreig; bu'n Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 1992- hyd 1997 ac yn Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 1997 hyd 1999.[1]

Ym 1999 cafodd Carlile ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi gan ddwyn y teitl 'y Barwn Carlile o Aberriw', o Aberriw yn Sir Powys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.libdems.org.uk/alex_carlile# Archifwyd 2014-10-15 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 11 Rhagfyr 2014