Keith Davies
| Keith Davies | |
|
Aelod Cynulliad dros Lanelli
|
|
| Deiliad | |
| Cymryd y swydd 6 Mai 2011 |
|
|
|
|
| Geni | Sir Gaerfyrddin |
|---|---|
| Plaid wleidyddol | Llafur |
| Priod | Heddyr |
Gwleidydd Cymreig yw Keith Davies. Daeth yn Aelod Cynulliad Llafur dros Lanelli ym Mai 2011 gan ddisodli aelod Plaid Cymru dros yr etholaeth, Helen Mary Jones.
Bu Davies yn gyfarwyddwr addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin, ond collodd ei swydd yn 2000 pan unwyd yr Adran addysg gyda'r Adran Datblygu Cymunedol. Roedd yn un o chwech wnaeth gynnig am y swydd newydd ond ni chafodd ei benodi.
Yn 2004 cafodd ei ethol yn Gynghorydd Sir i Lafur dros ward Hengoed. Collodd y sedd i Blaid Cymru yn 2008.
Yng ngwanwyn 2012 cafodd Pwyllgor Safonau a'r Comisiynydd Safonau fod Keith Davies wedi dwyn anfri ar y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi torri'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cynulliad yn dilyn ffrae rhyngddo fe a staff gwesty pum seren yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore.
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Helen Mary Jones |
Aelod Cynulliad dros Lanelli 2011 – |
Olynydd: deiliad |