Helen Mary Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Helen Mary Jones

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 1 Mai 2003

Cyfnod yn y swydd
1 Mai 2003 – 3 Mai 2007

Cyfnod yn y swydd
3 Mai 2007 – 6 Mai 2011

Geni (1960-06-29)

29 Mehefin 1960 (age 52)
Colchester, Baner Lloegr Lloegr

Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Aberystwyth
Galwedigaeth Athrawes

Gwleidydd Cymreig, aelod o Blaid Cymru a chyn-aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Helen Mary Jones (ganwyd 29 Mehefin 1960). Etholwyd dros etholaeth Llanelli ar ddyfodiad y Cynulliad ym 1999. Collodd afael ar y sedd etholaethol o 21 pleidlais yn etholiad 2003, ond fe'i hetholwyd i gynrychioli rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru dros Blaid Cymru. Ail-etholwyd Jones dros etholaeth Llanelli yn 2007, ond collodd y sedd unwaith eto yn 2011.

Bywgraffiad [golygu]

Fe'i ganwyd yn Colchester a derbyniodd ei haddysg yn Colchester County High School for Girls, yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion ym Mhowys ac ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Cyn dod yn wleidydd, bu'n gweithio ym maes addysg arbennig gan ddal gwahanol swyddi mewn gwaith cymdeithasol a chymunedol a chyda phobl ifainc.

Mae Helen Mary Jones wedi dal nifer o swyddi gwleidyddol ar lefel cangen, etholaeth ac yn genedlaethol o fewn Plaid Cymru, ac ar hyn o bryd hi yw cyfarwyddwraig cyfleoedd cyfartal y blaid. Cyn cael ei hethol i'r cynulliad roedd hi'n Uwch Reolwraig Datblygiad gyda'r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal yng Nghymru.

Helen Mary Jones yw'r cysgod weinidog dros addysg ac mae hi'n aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth, y Pwyllgor Cyfleoedd Cyfartal, Pwyllgor Partneriaeth y Sector Wirfoddol a Phwyllgor Ardal De Orllewin Cymru.

Ymladdodd hi am sedd seneddol Islwyn yn etholiad cyffredinol 1992 yn erbyn Neil Kinnock, arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd, ac am sedd Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 1997. Yn ddiweddar, daeth Helen yn ail yn etholiad arweinyddiaeth Plaid Cymru. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys materion amgylcheddol, cyfiawnder cymdeithasol, cyfleoedd cyfartal, hawliau plant a chyflogaeth. Fe fu hi'n aelod o'r grŵp ymgynghorol ar sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cysylltiadau allanol [golygu]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Lanelli
19992003
Olynydd:
Catherine Thomas
Rhagflaenydd:
Cynog Dafis
Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
20032007
Olynydd:
Nerys Evans
Rhagflaenydd:
Catherine Thomas
Aelod Cynulliad dros Lanelli
20072011
Olynydd:
Keith Davies